Dyddiad yr Adroddiad

01/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202105816

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mr X y cafwyd oedi ar ran y Cyngor wrth drwsio nam ar ei fwyler, a’i adael heb wres na dŵr poeth. Dywedodd Mr X ei fod wedi mynd i gostau ychwanegol oherwydd bod dŵr yn gollwng o’r bwyler, ac o ganlyniad, yn gorfod defnyddio dulliau eraill i wresogi dŵr.

Canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi ar ran y Cyngor wrth drwsio’r nam. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi eglurhad pendant am yr oedi, i ystyried ad-dalu’r costau ychwanegol ac i ystyried taliad i gydnabod yr amser a’r drafferth, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.

Cytunodd y Cyngor i roi’r wybodaeth hon i Mr X ac i ystyried ad-daliad o fewn 20 diwrnod gwaith.