Dyddiad yr Adroddiad

10/19/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202103115

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A, oedd yn denant gyda Chymdeithas Dai Hafod (“y Gymdeithas”) am yr oedi gyda gwneud gwaith trwsio yn ei chartref a oedd, meddai, yn effeithio ar ei hiechyd a’i lles. O ganlyniad roedd wedi gwneud cais i gael ei symud er y byddai’n well ganddi aros yn yr eiddo dan sylw. Dywedodd Ms A fod ganddi hefyd angen meddygol yn gofyn gosod toiled lawr grisiau, ond ni chlywodd ddim am hyn ychwaith.

Gan nodi rhai cyfyngiadau o ran beth y gallai’r Ombwdsmon ei gyflawni, oherwydd nad oedd ganddo unrhyw rôl mewn penderfynu pa gartrefi a gynigir na phryd y gallai rhywun gael ei symud, roedd er hynny’n bryderus am yr oedi gyda chwblhau’r gwaith trwsio (o arolwg a wnaed ar 21 Awst 2021). Ar ôl cysylltu â’r Gymdeithas, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y cais i symud wedi cael ei gofrestru a’i asesu’n iawn a bod Ms A ar y rhestr weithredol briodol. Fel opsiwn yn lle ymchwiliad, teimlai’r Ombwdsmon y gallai’r mater gael ei ddatrys pe bai’r Gymdeithas yn cymryd y camau canlynol, a chytunodd y Gymdeithas i hynny:
(a) Ymddiheuro’n ysgrifenedig am yr oed gyda chwblhau’r gwaith trwsio anorffen (o fewn un mis).
(b) Cynnig iawndal o £100 i Ms A am ei hamser a’i thrafferth yn codi’r materion hyn gyda’r Gymdeithas a’r Ombwdsmon (o fewn un mis).
(c) Cwblhau’r holl waith (gan gynnwys y gwaith wedi’i adnabod gan yr arolwg a wnaed ar 23 Awst 2021), o fewn chwech wythnos.
(d) Prosesu cais i wasanaethau Therapi Galwedigaethol (OT) yr awdurdod lleol am asesiad o’r angen, ac i osod, toiled lawr grisiau yn yr eiddo o fewn un mis.
(e) Ystyried yr adroddiad OT a rhoi gwybod i Ms A am benderfyniad y Gymdeithas am osod toiled lawr grisiau o fewn un mis i dderbyn yr adroddiad OT.