Dyddiad yr Adroddiad

12/06/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202205098

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cymdeithas Tai Hafod wedi methu trefnu i arolygwr ddod i’w gartref i asesu’r problemau yr oedd yn eu hwynebu gyda llifogydd yn ei ardd.

Wrth wneud ymholiadau gyda’r Gymdeithas, hysbyswyd yr Ombwdsmon bod ymweliad wedi’i drefnu erbyn hyn, fodd bynnag, penderfynodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol gan y Gymdeithas i ddod o hyd i syrfëwr. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mr A gan nad oedd yn gallu defnyddio ei ardd. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro i Mr A a rhoi cynllun gweithredu iddo o fewn pythefnos i gwblhau’r arolwg.