Dyddiad yr Adroddiad

05/14/2021

Achos yn Erbyn

Tai Cymunedol Bron Afon

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202100263

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Gymdeithas Tai wedi newid carped a oedd wedi cael ei ddifrodi gan ddŵr yn gollwng yn ei eiddo. Yn hytrach, cytunodd i roi taliad ariannol nad oedd yn ddigon yn ôl Mr X i’w alluogi i newid y carped.

Trafododd swyddfa’r Ombwdsmon y mater gyda’r Gymdeithas Dai. Cysylltodd y Gymdeithas Dai â Mr X yn uniongyrchol a chytunodd i osod carped newydd yn ei le.