Dyddiad yr Adroddiad

12/15/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202105868

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi ymateb i gŵyn ffurfiol a wnaeth ym mis Awst 2021 ynglŷn â’i Adran Gynllunio.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ei bod yn cymryd amser hir i’r Cyngor gwblhau Cam 1 ei broses gwynion, gan felly arwain at oedi gyda phroses Cam 2. Cytunodd y Cyngor felly i wneud y canlynol i setlo’r gŵyn:
1. Uwchgyfeirio cwyn Mr X i Gam 2 ei broses yn syth ac ymateb i’w gŵyn erbyn 17 Rhagfyr 2021 fan bellaf, gan ymddiheuro wrtho.
2. Gwneud taliad amser a thrafferth o £100 erbyn 17 Rhagfyr 2021 fan bellaf.