Dyddiad yr Adroddiad

06/30/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202201596

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi delio â’i chŵyn am gais cynllunio ôl-weithredol. Dywedodd Mrs X nad oedd wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau nac ymateb gan y Cyngor i’r gŵyn.

Cydnabu’r Cyngor nad oedd wedi rhoi diweddariadau i Mrs X am hynt ei chŵyn. Cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol i setlo cwyn Mrs X erbyn 29 Gorffennaf 2022, yn lle bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddi:

a) Ymddiheuro i Mrs X am fethu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon

b) Cynnig esboniad am y diofalwch hwn

c) Darparu ymateb Cam 2 i’r gŵyn.