Dyddiad yr Adroddiad

04/19/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202108379

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi ymdrin â’i gŵyn am niwsans sŵn gan fusnes ‘sandblastio’ masnachol. Dywedodd Mr X ei fod wedi gwneud 2 gŵyn i’r Cyngor. Er bod Mr X yn gwerthfawrogi bod y Cyngor wedi cydnabod ei gŵyn ddiweddaraf, roedd y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w gŵyn.

Cadarnhaodd y Cyngor nad oedd y broses gywir wedi’i dilyn mewn perthynas â chwyn Mr X. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mr X erbyn 31 Mai 2022, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddo:

a) Rhoi ymddiheuriad i Mr X am fethu â’i ddiweddaru’n rheolaidd ac yn ystyrlon ac ymateb i’w gŵyn
b) Rhoi esboniad i Mr X am yr amryfusedd hwn
c) Rhoi sicrwydd y bydd prosesau’n cael eu hadolygu i atal hyn rhag digwydd eto
d) Rhoi ymateb i gŵyn Cam 2 i Mr X mewn perthynas â’i bryderon sy’n weddill.