Dyddiad yr Adroddiad

06/11/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202100029

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y modd roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi delio â’i gŵyn yn ymwneud â gorfodaeth cynllunio ar eiddo drws nesaf. Dywedodd Mr A ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei drin yn annheg gan y Cyngor ac nad oedd wedi ymateb yn amserol i’w gŵyn. Hefyd, nid oedd wedi ymddwyn mewn modd diduedd yn ei ymchwiliad ac nid oedd wedi ymateb i’r holl faterion a godwyd nac wedi rhoi sylw i’r holl ffeithiau perthnasol.

Canfu’r Ombwdsmon nad ymchwiliwyd yn briodol i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan Mr A yn ei gŵyn. Gwelodd fod nifer o hepgoriadau ac anghysonderau yn ymchwiliad cychwynnol y Cyngor i’r achos honedig o dorri amodau caniatâd cynllunio ac yn ei ymchwiliad a ddilynodd hynny i gŵyn Mrs A am y materion hyn.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith yn gwneud y canlynol:

· Penodi ymgynghorydd annibynnol i ymchwilio i bob agwedd ar gŵyn Mr A, ac i adolygu sur yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi delio â’r materion a oedd yn destun y gŵyn.

· Talu iawndal o £250 i Mr A i gydnabod yr amser a’r drafferth yr aeth iddo i wneud y gŵyn ac y gellid bod wedi ei hosgoi.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai hyn yn datrys yr holl faterion a ystyriwyd yn y gŵyn.