Dewis eich iaith
Cau

Cynllunio a Rheoli Adeiladu : Cyngor Sir Caerfyrddin

Dyddiad yr Adroddiad

19/04/2022

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Rhif Cyfeirnod yr Achos

202107840

Math o Adroddiad

Datrys yn gynnar

Corff Perthnasol

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cwynodd Miss X fod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w chŵyn am achos honedig ei chymydog o dorri caniatâd cynllunio.

Cadarnhaodd y Cyngor fod cwyn Miss X wedi cael ei thrin fel mater i’w ‘ailgyfeirio’ ac nid fel cwyn a derbyniodd nad oedd Miss X wedi cael gwybod am hyn. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Miss X erbyn 12 Mai 2022, yn hytrach na bod yr Ombwdsmon yn ymchwilio iddo:

a) Rhoi ymddiheuriad ac esboniad i Miss X am fethu â’i hysbysu bod ei chŵyn yn cael ei thrin fel mater i’w ‘ailgyfeirio’ ac nid fel cwyn

b) Rhoi ymateb i gŵyn Miss X.

Yn ôl