Dyddiad yr Adroddiad

11/01/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynllunio a Rheoli Adeiladu

Cyfeirnod Achos

202204134

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn llawn i’r pryderon a fynegwyd ganddi ym Mehefin 2022 ynglŷn ag ymgynghoriad cyhoeddus ar drosglwyddo tir.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am nad oedd Ms X byth wedi cael ymateb llawn i’r pryderon a godwyd ganddi a gofynnodd iddo ysgrifennu at Ms X i ymddiheuro am yr oedi cyn ymateb, ac i gyhoeddi ymateb ysgrifenedig llawn o fewn 30 diwrnod gwaith. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad priodol i gŵyn Ms X a phenderfynwyd peidio â chynnal ymchwiliad.