Dyddiad yr Adroddiad

03/18/2022

Achos yn Erbyn

Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr

Pwnc

Cyllid a Threthiant

Cyfeirnod Achos

202103058

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X ei bod wedi mynd i ddyled oherwydd iddi gael gwybodaeth anghywir gan un o’r rhai sy’n delio â galwadau’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am yr hawl i gael cyllid ffioedd dysgu ar gyfer cwrs. Roedd hi wedi derbyn lle ar y cwrs ar sail yr hawl i gael cyllid ffioedd dysgu. Yn dilyn hynny, dywedodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wrthi nad oedd hawl o’r fath. Gadawodd y cwrs ar unwaith ond roedd ganddi ddyled ffioedd dysgu un tymor yn barod.
Nododd yr Ombwdsmon fod yr wybodaeth a roddwyd i Ms X yn ffeithiol anghywir. Roedd yn fodlon bod amgylchiadau penodol i’r gŵyn hon a oedd yn golygu bod Ms X wedi dioddef niwed oherwydd camau gweithredu’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Er mwyn setlo’r gŵyn, o fewn 1 mis, cytunodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i wneud y taliadau ex gratia a ganlyn i Ms X:
• £2312.50 i dalu am y ddyled sy’n gysylltiedig â ffioedd dysgu.
• £300 am amser a thrafferth wrth ddatrys ei chŵyn.

Roedd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr hefyd wedi sicrhau na fyddai’r benthyciad cynhaliaeth a dalwyd i Ms X am y tymor yn cael ei adfer fel gordaliad o unrhyw astudiaeth gyfredol/ar gyfer y dyfodol, ond y byddai’n ad-daladwy yn y dyfodol yn y ffordd arferol fel gydag unrhyw fenthyciad myfyriwr.