Dyddiad yr Adroddiad

10/13/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Cyllid a Threthiant

Cyfeirnod Achos

202204044

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S nad oedd wedi cael ymateb i’w ohebiaeth ddiweddaraf gyda’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2022. Cwynodd Mr S hefyd fod y penderfyniadau a wnaethpwyd yng nghyswllt ei Dreth Gyngor yn anghywir a bod y Cyngor wedi methu ei gywiro.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth o gamweinyddu na methiant gwasanaeth yng nghyswllt penderfyniadau’r Cyngor ynghylch Treth Gyngor Mr S. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr S wedi cael ymateb i’w ohebiaeth ddiweddaraf.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro a rhoi esboniad i Mr S am yr oedi o fewn 20 diwrnod gwaith. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mr S.