Dyddiad yr Adroddiad

11/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ddinbych

Pwnc

Cyfleusterau Cymunedol. Adloniant a hamdden

Cyfeirnod Achos

202204939

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am nad oedd y Cyngor wedi cyhoeddi ymateb Cam Dau i’w gŵyn am ei broses o ddyrannu rhandiroedd y Cyngor.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor, a chytunodd i roi ymateb Cam Dau i’w gŵyn a ddylai roi sylw i’r holl bryderon a godwyd yn y gŵyn wreiddiol yn ogystal â chwynion a godwyd am y modd yr oedd y Cyngor wedi delio â’r gŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad digonol yn hytrach nag ymchwilio i’r gŵyn.