Dyddiad yr Adroddiad

12/16/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Cyfleusterau Cymunedol. Adloniant a hamdden

Cyfeirnod Achos

202205660

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X, er ei bod wedi mynegi pryderon am Swyddog Cyngor tra’r oedd ar ei gwyliau ym mis Medi 2022, nad oedd wedi cael cydnabyddiaeth nac ymateb eto.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Cyngor wedi dyfarnu’n anghywir bod y gŵyn wedi’i datrys a’i fod wedi methu dilyn ei drefn gwyno statudol. Dywedodd fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Ms X.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn 30 diwrnod gwaith, yn rhoi ymddiheuriad i Ms X am yr oedi cyn ymateb, yn cyhoeddi ymateb ysgrifenedig ffurfiol, ac yn rhoi manylion i Ms X am ei drefn gwyno ffurfiol os yw’n dymuno bwrw ymlaen ymhellach.