Dyddiad yr Adroddiad

12/20/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Ceisiadau. Dyraniadau. Trosglwyddo a chyfnewidiadau

Cyfeirnod Achos

202202598

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X ei fod wedi derbyn cynnig am dŷ ar sail fideo o eiddo gwahanol. Dywedodd fod pwysau arno i dderbyn y cynnig er nad oedd yr eiddo’n addas ar gyfer anghenion ei deulu. Cododd bryderon hefyd ynghylch delio â chwynion, cwestiynodd gywirdeb yr ymatebion a ddarparwyd a pha mor gyflawn oedd y cofnodion tenantiaeth.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon na achoswyd unrhyw anghyfiawnder amlwg oherwydd y fideo a ffilmiwyd. Fodd bynnag, roedd yn bryderus nad oedd tystiolaeth berthnasol am anghenion iechyd merch Mr X wedi cael ei hystyried cyn i’r cynnig gael ei wneud, a bod Mr X wedi darparu gohebiaeth ychwanegol na chafodd ei chynhyrchu gan y Cyngor.

Derbyniodd y Cyngor, oherwydd oedi gweinyddol, na phroseswyd y dystiolaeth cyn i’r cynnig am dŷ gael ei wneud.

Ceisiodd a derbyniodd gytundeb y Cyngor i sicrhau’r canlynol, o fewn un mis:
• ymddiheuro i Mr X a’i deulu am yr oedi gweinyddol ac esbonio sut/pam y digwyddodd hyn
• gwneud taliad o £800 i gydnabod yr ansicrwydd a achoswyd ynghylch addasrwydd y cynnig am dŷ a wnaethpwyd, amser a thrafferth ac anhwylustod symud am yr eildro
• rhoi manylion y camau a gymerwyd i osgoi oedi gweinyddol tebyg mewn achosion yn y dyfodol a sicrhau bod cofnodion tenantiaeth yn gywir ac yn gyflawn.
Derbyniwyd y cam hwn fel dewis arall yn lle ymchwiliad.