Dyddiad yr Adroddiad

07/07/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202101443

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Er gwaethaf cwyn flaenorol i’r Ombwdsmon a oedd wedi arwain at setliad gyda’r Cyngor, cwynodd Ms X nad oedd ei sbwriel yn cael ei gasglu o hyd ac nad oedd ond wedi cael 2 gasgliad sbwriel ers mis Awst 2020.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus fod y mater o beidio â chasglu sbwriel Ms X yn parhau, er gwaethaf y cytundeb blaenorol gyda’r Cyngor, a’i bod hi wedi parhau i wynebu anhwylustod oherwydd diffyg gweithredu gan y Cyngor.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyflawni’r camau canlynol o fewn 2 wythnos, fel dewis arall yn lle ymchwiliad:

· Darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Ms X am y casgliadau sbwriel yr oedd wedi parhau i’w methu.

· Trefnu cyfarfod gyda Ms X i drafod y problemau a oedd yn parhau a chynnig ar gyfer gweithredu yn y dyfodol (a oedd eisoes wedi’i gynnal ar 24 Mehefin 2021).

· Ailsefydlu’r gwaith o fonitro’r casgliadau am gyfnod o 3 mis.