Dyddiad yr Adroddiad

02/03/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202106675

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X, er gwaethaf cwynion a wnaed i’r Cyngor o’r blaen, a’r monitro oedd wedi’i roi ar waith, roedd gwastraff yn parhau i beidio â chael ei gasglu’n rheolaidd o gyfeiriad ei thad, Mr Y. Roedd gwasanaeth Cymorth Casglu Gwastraff wedi’i drefnu ar ei gyfer.

Roedd yr Ombwdsmon yn poeni am y methiannau parhaus o ran casglu gwastraff oedd wedi bod yn digwydd ers nifer o flynyddoedd, er gwaethaf y ffaith eu bod wedi mynd drwy’r drefn gwyno o’r blaen a bod camau gweithredu wedi cael eu rhoi ar waith yn flaenorol, a bod gweithredoedd y Cyngor wedi peri anhwylustod i Mrs X a Mr Y. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gymryd y camau canlynol:

• Darparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs X am y problemau oedd yn parhau a’i bod wedi gorfod cyflwyno ei chwyn i’r Ombwdsmon.

• Gofyn i’r goruchwylwyr roi cyfeiriad Mr Y ar y taflenni monitro ar gyfer y 5 casgliad nesaf.

• Gofyn i’r goruchwylwyr ddod i’r cyfeiriad ar yr un pryd ag y mae’r casgliadau’n cael eu gwneud am 12 wythnos (o ddyddiad llythyr yr Ombwdsmon) a’u bod yn cadarnhau wrth yr Uwch Reolwr bod y casgliad wedi digwydd.

• Adolygu prosesau’r Adran Darparu Gwasanaeth i sicrhau bod yr holl staff sy’n gysylltiedig yn ymateb i gwynion yn brydlon.

Cytunodd y Cyngor i gymryd y camau uchod o fewn pythefnos, sef erbyn 17 Chwefror 2022.

• Adolygu’r broses o ran Cymorth Casglu Gwastraff a rhoi mwy o hyfforddiant i staff ar y Broses Cymorth Casglu.

Cytunodd y Cyngor i gymryd y cam uchod o fewn 6 wythnos, sef erbyn 17 Mawrth 2022.