Dyddiad yr Adroddiad

01/26/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202106822

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am fater parhaus yn ymwneud â diffyg casglu gwastraff ailgylchu a sbwriel/casglu gwastraff ailgylchu a sbwriel anghyson.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss X (o fewn 3 wythnos) am yr anghyfleustra a achoswyd. Bydd hefyd yn rhoi sicrwydd i Ms X y bydd y mater yn cael ei gofnodi gyda Rheolwr y Tîm Casglu i fonitro ei chasgliadau yn ystod y 3 mis nesaf. Bydd hefyd yn gwneud yn siŵr bod y Tîm Casglu yn ymwybodol o Ms X er mwyn sicrhau y gwneir pob ymdrech i gasglu ei gwastraff yn y dyfodol.

Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn ateb priodol i’r gŵyn yn lle cynnal ymchwiliad.