Dyddiad yr Adroddiad

08/03/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202102694

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad yw ei gwastraff cyffredinol wedi cael ei gasglu ers mis Mehefin 2021. Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi cynnig unrhyw ateb i ddatrys y problemau mynediad a achosir gan geir sydd wedi parcio.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ymateb ysgrifenedig pellach i Miss X (o fewn 3 wythnos) a ddylai gynnwys ymddiheuriad a sicrwydd y byddai casgliad yn digwydd o fewn 48 awr. Dylai’r Cyngor hefyd gynnig awgrym ynghylch sut i wella pethau wrth symud ymlaen, a dylai ofyn i’w Reolwr Tîm Casgliadau fonitro’r sefyllfa er mwyn sicrhau pob ymdrech i gasglu gwastraff Miss X yn y dyfodol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.