Dyddiad yr Adroddiad

03/23/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202108059

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X na chafodd ei archeb o fagiau ailgylchu gwyrdd, a bod y Cyngor wedi methu ag ymateb i’w gŵyn ffurfiol.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb i’w bryderon eto, a chysylltodd â’r Cyngor. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i ddarparu ymateb ffurfiol i Mr X ynghylch ei gŵyn erbyn 31 Mawrth 2022. Cadarnhaodd y Cyngor hefyd fod bagiau ailgylchu wedi eu dosbarthu i Mr X erbyn hyn.