Dyddiad yr Adroddiad

06/20/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Cartrefi gofal

Cyfeirnod Achos

202108535

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y cartref gofal a oedd yn cael ei ariannu gan y Cyngor wedi monitro ac ymateb yn ddigonol i anghenion ei dad, Mr Z, cyn iddynt ddod yn hanfodol. Cwynodd Mr X hefyd na chafodd y teulu wybod am les Mr Z, ac ar ôl cyfnod byr yn yr ysbyty, fe wnaeth y cartref gofal wrthod i Mr Z ddychwelyd.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor yn ymwybodol o’r gŵyn ac nad oedd Mr X yn fodlon o hyd yn dilyn ymateb y cartref gofal i’r gŵyn. Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor wneud y canlynol o fewn 30 diwrnod gwaith:

a) Ymateb i gŵyn Mr X o dan ddarpariaethau gweithdrefn gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol statudol.