Dyddiad yr Adroddiad

04/28/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Asesiad Gofal Cymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202005090

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd ei gyfarpar cyfrifiadurol, a ddarparwyd cynt yn dilyn asesiad o’i anghenion gan y Cyngor, yn addas i’w ddiben erbyn hyn. Nododd yr Ombwdsmon fod Mr X wedi nodi ei fod hefyd yn ddigartref ac nad oedd bellach yn preswylio yn ardal y Cyngor oherwydd ei bryderon o ran diogelu mewn perthynas â’r Cyngor, ond ei fod yn ceisio cael ail asesiad o’i anghenion.
Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd eglurder ynghylch a oedd Mr X yn bwriadu dychwelyd i ardal y Cyngor ac, felly, a oedd dyletswydd i’w asesu ac ystyried y ffaith ei fod yn ddigartref. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn rhesymol i Mr X gadarnhau ei fwriad ynghylch dychwelyd i ardal y Cyngor, cyn ystyried a fu camweinyddu ar ran y Cyngor.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cyfle i ddatrys y mater yn gynnar, ar ôl cael cadarnhad am hyn gan Mr X. Byddai hyn yn cadarnhau a oedd y Cyngor o dan ddyletswydd tuag at Mr X. Os oedd, roedd yr Ombwdsmon yn falch o nodi bod y Cyngor wedi cytuno y byddai, o fewn 8 wythnos, yn dechrau ailasesu anghenion Mr X (yn cynnwys anghenion cyfathrebu) ac, wrth wneud hynny, yn ystyried ei statws digartrefedd.