Dyddiad yr Adroddiad

02/16/2022

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202003546

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr D, tenant mewn bloc o fflatiau preswyl sy’n cael ei reoli ac sy’n eiddo i Gymdeithas Dai Trivallis yn bennaf, fod y Gymdeithas Dai, ers iddo ddechrau ar ei denantiaeth yn 2018, wedi gwneud y canlynol:

1. Methu â gweithredu a gorfodi ei pholisi ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ymateb i’w gwynion a’i adroddiadau niferus am ymddygiad annerbyniol tenantiaid cyfagos y Gymdeithas Dai (a’u hymwelwyr).

2. Methu â gwerthfawrogi ac ymateb i’r effaith a gafodd yr ymddygiad gwrthgymdeithasol roedd ei gymodogion yn ei ddangos tuag ato ar ei iechyd meddwl.

3. Methu â hwyluso ei gais am gael ei ailgartrefu er ei bod yn cytuno y byddai symud o’r Fflatiau er ei les pennaf.

Nid oedd yr Ombwdsmon yn cadarnhau cwynion Mr D. O ran cwyn1, canfu’r Ombwdsmon dystiolaeth helaeth fod y Gymdeithas Dai wedi ceisio gweithredu a gorfodi ei pholisi ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn amgylchiadau eithriadol o anodd mewn ffordd (bwyllog) a oedd yn gyson gefnogol i denantiaid (gan gynnwys Mr D) a oedd a nodweddion oedd yn eu gwneud yn fregus. Rhoddwyd y camau gorfodi mwy sylweddol ar waith yn erbyn tenantiaid problemus yn yr achosion hynny lle’r oedd tystiolaeth glir, wedi’i hategu, o ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel uchel (a/neu ymddygiad troseddol). Cymerwyd y mesurau hyn (a oedd yn cynnwys gorchmynion troi allan) dim ond pan oedd nifer o rybuddion wedi’u rhoi mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol oedd wedi digwydd dro ar ôl tro a phan oedd ymdrechion cefnogol i gynnal tenantiaeth a gwella ymddygiad wedi methu.

O ran cwyn 2, canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai, drwy gydol ei denantiaeth, wedi gwneud ymdrechion rhesymol i roi cefnogaeth, cyngor, arweiniad a chymorth ymarferol i Mr D, a’i bod wedi bod yn allweddol o ran hwyluso’r gofal iechyd meddwl a’r cymorth a gafodd gan ei feddyg teulu ac o safbwynt ei atgyfeirio i nifer o wasanaethau cymorth iechyd meddwl eraill.

O ran cwyn 3, canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas Dai wedi esbonio’n glir i Mr D fod gan yr awdurdod lleol reolaeth lawn dros y Gofrestr Tai Cyffredin ac, o’r herwydd, nad oedd o fewn gallu’r Gymdeithas Dai i yrru unrhyw gais oedd yn ymwneud â’r gofrestr tai yn ei flaen nac i ddyfarnu band blaenoriaeth. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod Mr D wedi cael gwybodaeth, cymorth ac anogaeth mewn perthynas â’i ddymuniad i gael ei ailgartrefu ac mewn perthynas â’r gweithdrefnau dan sylw. Fodd bynnag, ni allai ystyried camau gweithredu’r awdurdod lleol yn y mater hwn (a oedd y tu hwnt i gwmpas yr ymchwiliad hwn).