Dyddiad yr Adroddiad

02/03/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Benfro

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202206582

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs S fod Cyngor Sir Benfro wedi methu â delio â’i chwyn a theimlai nad oedd ei phryderon yn cael eu datrys. Cwynodd ymhellach, er gwaethaf addewidion i archwilio ei ffens ym mis Hydref 2022, nad oedd y Cyngor wedi gweithredu ar hyn eto.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Cyngor wedi gweithredu ar bryderon Mrs S yn brydlon a dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs S.

Yn lle ymchwiliad, ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mrs S yn ysgrifenedig am yr oedi a dyrannu contractwr i wneud y gwaith ar y ffens o fewn 30 diwrnod gwaith.