Dyddiad yr Adroddiad

10/20/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202103239

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A nad oedd ei landlord, Coastal Housing Group Ltd (“y Gymdeithas”), wedi gweithredu a / neu wedi methu â’i ddiweddaru ar ei gwynion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn erbyn ei gymydog, oedd hefyd yn denant i’r Gymdeithas. Roedd hyn yn cynnwys ymosod ar Mr A ac felly roedd eisiau i’r Gymdeithas droi ei gymydog allan o’i eiddo. Cwynodd Mr A hefyd ei fod wedi gofyn am gael symud ar sail diogelwch a theimlai fod y Gymdeithas, a hynny ar gam, wedi gwrthod ei symud o dan ei Bolisi Gosod (“y Polisi”).

Mae pwerau’r Ombwdsmon wedi eu cyfyngu i faterion tai ac ni all gyfarwyddo landlord yn uniongyrchol i droi rhywun allan nag ychwaith gyfarwyddo bod rhywun yn cael eu symud yn syth. Ar ôl ystyried y gŵyn, daeth yn glir fod y Gymdeithas yn parhau i ymchwilio i’r ASB ac yn symud at gymryd camau cyfreithiol. Dywedodd nad oedd Mr A yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cael ei symud ar sail diogelwch o dan y Polisi (penderfyniad ar sail disgresiwn), fodd bynnag teimlai’r Ombwdsmon nad oedd y rhesymau dros hynny wedi eu hesbonio’n iawn i Mr A. Yn lle ymchwiliad felly, cytunodd y Gymdeithas i gymryd y camau canlynol i setlo’r gŵyn (o fewn un mis):
(a) Ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Mr A am y methiant i gyfathrebu a’i ddiweddaru’n ystyrlon ar yr ymchwiliad ASB.
(b) Ei ddiweddaru ymhellach bob mis am gyn hired ag y bo’r mater yn parhau.
(c) Rhoi esboniad ysgrifenedig ystyrlon i Mr A ynghylch pam y penderfynwyd nad oedd yn bodloni’r trothwy ar gyfer cael ei symud ar sail diogelwch.