Dyddiad yr Adroddiad

04/14/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202108579

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â chydymffurfio â Rheoliadau Gweithdrefn Gwyno Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 drwy fethu ag ymateb i’w gŵyn yn brydlon.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a gytunodd i gwblhau ei ymchwiliad a rhoi ei ymateb Cyfnod 2 erbyn 20 Mai 2022 fan bellaf. Cytunodd i gynnwys ymddiheuriad am yr oedi cyn cwblhau ei ymchwiliad ac am fethu â diweddaru Mr X. Ystyriodd yr Ombwdsmon hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.