Dyddiad yr Adroddiad

05/09/2022

Achos yn Erbyn

Adra

Pwnc

Anfoesgarwch/ ymddygiad anystyriol/ agwedd staff

Cyfeirnod Achos

202200329

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X iddi ddioddef casineb, camdriniaeth, gwahaniaethu ac aflonyddu gan ei chymdogion. Cwynodd Miss X hefyd, er iddi gyflwyno cwyn i’r Gymdeithas, nad oedd y Gymdeithas eto wedi ymateb i’w phryderon.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Miss X eto wedi cael ymateb i’w phryderon a chysylltodd â’r Gymdeithas. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas y byddai’n darparu i Miss X ymateb ffurfiol erbyn 13 Mai 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon fod hyn yn bodloni cwyn Miss X.