Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch Trwsio Tai. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Gallwn ond ystyried cwynion am gynghorau a chymdeithasau tai; ni allwn ddelio â chwynion ynghylch landlordiaid preifat.

Fel landlord, mae gan y cyngor neu’r gymdeithas dai gyfrifoldeb cyfreithiol dros wneud gwaith trwsio arbennig. Yn ôl y gyfraith, rhaid yn gyntaf dod â’r broblem at sylw’r landlord a rhaid i’r landlord hefyd fod wedi cael cyfle rhesymol i wneud y gwaith trwsio cyn i chi gwyno i ni.

Mae gan denant rai cyfrifoldebau i gynnal a chadw’r eiddo, a bydd manylion y rhain yn eich cytundeb tenantiaeth.

Mae’r gwaith trwsio y mae’r landlord yn gyfrifol amdano yn cynnwys y canlynol:

  • strwythur a thu allan eich cartref (gan gynnwys y to a’r peipiau);
  • y system wresogi (gan gynnwys y bwyler a’r cyflenwad dŵr poeth);
  • y bath, y gawod, sinc a’r toiled (gan gynnwys unrhyw waith peipiau cysylltiedig);
  • grisiau neu lifft yr ydych efallai yn eu rhannu â phobl eraill (e.e. mewn bloc o fflatiau)

Rhaid i’r landlord hefyd archwilio unrhyw fwyler neu gyfarpar nwy sydd wedi’i ddarparu ganddo, bob blwyddyn, a rhoi tystysgrif diogelwch i chi i ddangos bod hyn wedi’i wneud.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu edrych ar gwynion bod y landlord wedi:

  • methu cyflawni gwaith trwsio i’r cartref yr ydych yn ei rentu ganddo;
  • oedi yn delio gyda’ch cais i wneud gwaith trwsio;
  • colli apwyntiadau;
  • methu datrys problem drwsio y gwnaethoch roi gwybod amdani, mewn amser rhesymol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • delio â chwynion am landlordiaid preifat;
  • gorfodi eich landlord i wneud unrhyw welliannau (e.e. gosodion ystafell ymolchi newydd);
  • gorfodi eich landlord i wneud gwaith trwsio mwy sylweddol na’r hyn sydd ei angen i ddelio â’r broblem.

 

Materion i gadw mewn cof

  • Bydd eich cytundeb tenantiaeth efallai’n nodi pethau penodol eraill y mae eich landlord wedi cytuno i fod yn gyfrifol amdanynt.
  • Bydd llawer o landlordiaid yn rhoi ‘Llawlyfr Tenant’ ichi, sy’n cynnwys gwybodaeth fel yr amserlen ar gyfer gwneud gwaith trwsio.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai y byddwch am ystyried cysylltu â’r mudiadau canlynol am gyngor:

Shelter Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar dai. Gallwch eu ffonio ar 0845 075 5005 neu fynd i’w gwefan yn https://www.sheltercymru.org.uk.

Cyngor ar Bopeth Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar ystod o broblemau (gan gynnwys tai). Gallwch gysylltu â nhw drwy fynd ar y we yn https://www.citizensadvice.org.uk (a dewis opsiwn tudalen ‘Cymru’) a chofnodi eich cod post i gael manylion ar sut i gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol agosaf.

Efallai y bydd eich Aelod Cynulliad  lleol yn gallu cynnig cyngor a chymorth hefyd.

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen