Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch Trwsio Tai. Dylid ei darllen gyda’r llyfryn sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol am ein gwasanaeth, ar gael yma.
Gall yr Ombwdsmon ond ystyried cwynion am gynghorau a chymdeithasau tai; ni all ddelio â chwynion ynghylch landlordiaid preifat.
Fel landlord, mae gan y cyngor neu’r gymdeithas dai gyfrifoldeb cyfreithiol dros wneud gwaith trwsio arbennig. Yn ôl y gyfraith, rhaid yn gyntaf dod â’r broblem at sylw’r landlord a rhaid i’r landlord hefyd fod wedi cael cyfle rhesymol i wneud y gwaith trwsio cyn ichi gwyno i’r Ombwdsmon.
Mae gan denant rai cyfrifoldebau i gynnal a chadw’r eiddo, a bydd manylion y rhain yn eich cytundeb tenantiaeth.
Mae’r gwaith trwsio y mae’r landlord yn gyfrifol amdano yn cynnwys y canlynol:
Rhaid i’r landlord hefyd archwilio unrhyw fwyler neu gyfarpar nwy sydd wedi’i ddarparu ganddo, bob blwyddyn, a rhoi tystysgrif diogelwch ichi i ddangos bod hyn wedi’i wneud.
Bydd yn gallu edrych ar gwynion bod y landlord wedi:
Ni fyd yn gallu:
Efallai y byddwch am ystyried cysylltu â’r mudiadau canlynol am gyngor:
Shelter Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar dai. Gallwch eu ffonio ar 0845 075 5005 neu fynd i’w gwefan yn http://www.sheltercymru.org.uk.
Cyngor ar Bopeth Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar ystod o broblemau (gan gynnwys tai). Gallwch gysylltu â nhw drwy fynd ar y we yn http://www.citizensadvice.org.uk (a dewis opsiwn tudalen ‘Cymru’) a chofnodi eich cod post i gael manylion ar sut i gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol agosaf.
Efallai y bydd eich Aelod Cynulliad lleol yn gallu cynnig cyngor a chymorth hefyd.
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol a di-duedd; ni all orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn y mae’n ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.
Mae enghreifftiau o achosion yr edrychodd yr Ombwdsmon arnynt ar ein gwefan. Ewch i www.ombwdsmon.cymru.
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.