Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch ceisiadau tai / trosglwyddo. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’. Efallai y byddwch hefyd am ddarllen ein taflen ar ddigartrefedd a allai fod yn berthnasol.

Rhaid i gynghorau a chymdeithasau tai fod â pholisi ysgrifenedig yn egluro sut y byddant yn cynnig eu tai drwy ystyried anghenion y person.

Mae gofynion cyfreithiol mwy llym ar y Cyngor, e.e. mae rhai pobl y mae’n rhaid i’r Cyngor roi blaenoriaeth resymol iddynt gan gynnwys: pobl ddigartref; pobl sy’n byw mewn tai wedi eu gorlenwi neu sy’n anaddas; pobl sydd ag anghenion meddygol neu anableddau arbennig; mae hyn hefyd yn berthnasol i drosglwyddo.

Gall cymdeithasau tai fod yn fwy hyblyg o ran i bwy y maent yn cynnig llety iddynt, e.e. medrant wrthod cynnig tŷ ichi os oes arnoch ddyledion rhent i landlord arall. Yn fwyfwy, fodd bynnag, mae cymdeithasau tai a’r cyngor lleol yn gweithredu polisi cyffredin ar ddyrannu eiddo.

Bydd polisi’r Cyngor neu’r gymdeithas dai yn egluro sut y bydd yn penderfynu pwy sy’n cael cynnig tŷ yn gyntaf, e.e. cynllun pwyntiau; cynllun bandiau / cwotâu; neu system fidio am dai arbennig.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu:

  • edrych i weld a ddeliwyd yn briodol â’ch cais am dŷ;
  • edrych i weld a ydyw’r Cyngor neu’r gymdeithas dai wedi cymhwyso eu polisi i’ch cais am dŷ yn gywir, e.e. a ydych yn y band cywir;
  • edrych i weld a ddywedodd y Cyngor neu’r gymdeithas dai wrthych sut y deliodd â’ch cais am dŷ, e.e. a ydyw wedi anfon llythyr atoch gyda manylion unrhyw bwyntiau a roddwyd ichi;
  • edrych i weld a wnaeth y Cyngor neu’r gymdeithas dai oedi wrth ddelio â newidiadau yn eich sefyllfa ar ôl cael gwybod gennych, e.e. lle gofynnwyd ichi adael eich cartref;
  • edrych i weld pam y cafodd eich cais efallai ei ohirio, e.e. a ydyw’r Cyngor wedi dilyn y weithdrefn gywir os mai eich ymddygiad oedd y rheswm dros ohirio eich cais.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • gorfodi’r Cyngor / Cymdeithas Dai i roi tŷ i chi, neu unrhyw dŷ arbennig sydd ei eisiau arnoch.
  • newid penderfyniad a wnaed yn briodol ynghylch eich cais am dŷ.

 

Materion i gadw mewn cof

  • Nid oes digon o dai i bawb sydd eisiau un.
  • Efallai y bydd y polisi’n cyfyngu ar faint o gynigion y gellir eu gwneud ichi neu gyfyngu ar yr ardaloedd y gallwch eu dewis ar eich cais am dŷ.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai y byddwch am ystyried cysylltu â’r mudiadau canlynol am gyngor:

Shelter Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar dai. Gallwch eu ffonio ar 0345 075 5005 neu fynd i’w gwefan yn https://www.sheltercymru.org.uk.

Cyngor ar Bopeth Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar ystod o broblemau (gan gynnwys tai). Gallwch gysylltu â nhw drwy fynd ar y we yn www.citizensadvice.org.uk (a dewis opsiwn tudalen ‘Cymru’) a chofnodi eich cod post i gael manylion ar sut i gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol agosaf.

Efallai y bydd eich Aelod Cynulliad lleol yn gallu cynnig cyngor a chymorth hefyd.

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltwch â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen