Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch Digartrefedd. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’. Os ydych wedi gwneud Cais am Dŷ i’r Cyngor neu i Gymdeithas Dai, dylech hefyd ddarllen ein taflen ffeithiau ar Geisiadau Tai.

Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb o dan y gyfraith i ddarparu help a chymorth i bobl sydd yn neu a allai fynd yn ddigartref.

Dim ond rhai pobl (a elwir yn Bobl mewn Angen Blaenoriaeth) sydd â hawl i gael llety brys a help gyda’u pethau personol. Enghreifftiau yw pobl gyda phlant sy’n ddibynnol arnynt, a phobl sy’n anabl.

Ni fydd gan y Cyngor gymaint o gyfrifoldeb os credir eich bod wedi gwneud eich hun yn ddigartref yn fwriadol (”bwriadol ddigartref”).

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn edrych i weld a ydyw’r Cyngor wedi:

  • eich atal rhag gwneud cais digartrefedd neu wedi methu cydnabod y gallech fod yn ddigartref, e.e. mae eich cais am dŷ yn dweud bod eich eiddo wedi’i orlenwi;
  • methu cynnig llety brys ichi os ydych o fewn y grŵp sydd â hawl iddo, e.e. rydych yn feichiog;
  • edrych ar eich sefyllfa digartrefedd yn iawn, e.e. os cawsoch eich troi allan, a ydyw’r Cyngor wedi cysylltu â’ch landlord blaenorol i gael gwybod pam;
  • cymryd rhy hir i gyrraedd penderfyniad ar eich achos;
  • methu rhoi penderfyniad ysgrifenedig i chi yn dweud: i) a fydd yn eich helpu, (ii) os na, pam ddim, (iii) eich hawl i apelio;
  • edrych ar ôl eich dodrefn a’ch pethau personol, e.e. wedi trefnu lle i’w storio;
  • methu delio (neu wedi oedi’n afresymol yn delio) gyda’ch achos yn iawn.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • gorfodi’r Cyngor i ddarparu llety ichi;
  • gwrth-droi penderfyniad a wnaed yn briodol ar eich achos digartrefedd.

 

Materion i gadw mewn cof

Efallai y bydd maint yr help a chymorth y byddwch yn ei dderbyn gan y Cyngor yn cael ei effeithio gan a ydych yn byw neu’n gweithio yn ardal y Cyngor neu beidio (gelwir hyn yn gysylltiad lleol).

 

Gwybodaeth bellach

Efallai y byddwch am ystyried cysylltu â’r mudiadau canlynol am gyngor:

Shelter Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar dai. Gallwch eu ffonio ar 0345 075 5005 neu fynd i’w gwefan yn https://www.sheltercymru.org.uk.

Cyngor ar Bopeth Cymru sy’n rhoi cyngor a chymorth annibynnol a di-dâl ar ystod o broblemau (gan gynnwys digartrefedd). Gallwch gysylltu â nhw drwy fynd ar y we yn www.citizensadvice.org.uk (a dewis opsiwn tudalen ‘Cymru’) a chofnodi eich cod post i gael manylion ar sut i gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol agosaf.

Bydd eich Aelod lleol o’r Cynulliad hefyd efallai’n gallu rhoi cyngor a chymorth ichi.

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro. Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen