Mae’r Daflen Ffeithiau hon ynglŷn â Gorfodaeth Parcio Ceir ac yn bennaf y mae ar gyfer pobl gyda phryderon am hysbysiad tâl cosb (HTC) sy’n cael ei roi gan gyngor mewn perthynas â thramgwydd parcio. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Mae cyfyngiadau parcio a thorri rhai rheolau trafnidiaeth eraill (fel gyrru mewn lonydd bysiau) yn cael eu gorfodi fwyfwy gan gynghorau. Y darnau perthnasol o ddeddfwriaeth sy’n rhoi’r pwerau hyn i’r cyngor yw Deddf Rheoli Traffig (2004) a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd (1984). O dan ddarpariaethau’r ddeddfwriaeth hon, ceir hawliau apelio/herio statudol i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig a’r llys ynadon yn eu tro.
Mae’r amgylchiadau lle gallwn allu ystyried eich cwyn yn gyfyng eithriadol. Fodd bynnag, efallai fod rhai agweddau cyfyngedig y gallai ef eu hystyried:
Ni allwn ymchwilio i fwyafrif y cwynion ynglŷn â gorfodaeth barcio. Ni allwn wyrdroi penderfyniad gorfodaeth barcio ac ni allwn atal camau gweithredu gorfodaeth rhag mynd ymlaen. Yn ychwanegol, ni allwn ymchwilio fel arfer i gwynion lle y mae hawl apelio statudol i dribiwnlys annibynnol neu i’r llysoedd:
Yn ychwanegol:
Nid oes rhaid i chi wneud eich cwyn i ni drwy ddefnyddio cyfreithiwr nac unrhyw adfocad arall; mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac mae’n amhleidiol ac rydym yn anelu at wneud y broses mor hawdd i’w dilyn ag sy’n bosibl.
Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol am gyngor neu wybodaeth:
Mae Tribiwnlys Cosbau Traffig yn ymdrin ag apeliadau HTCau a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf Rheoli Traffig. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0800 160 1999 neu ewch i’w gwefan: www.trafficpenaltytribunal.gov.uk
Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim i aelodau’r cyhoedd a gellir darganfod gwybodaeth benodol ynglŷn â gorfodaeth barcio ar eu gwefan: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Y-Gyfraith-a-Llysoedd/tocynnau-parcio/
Mae POPLA yn ystyried apeliadau ar hysbysiadau a gyhoeddwyd gan gwmnïau preifat sy’n aelodau o Gynllun Gweithredwr Cymeradwy (CGC) a weinyddir gan Gymdeithas Parcio Prydain (CPP). Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 03301 596 126 neu ewch i’w gwefan: www.popla.org.uk
Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru