Dewis eich iaith
Cau
Yn ôl

Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon ynglŷn â’r Cynllun Bathodyn Glas, sy’n darparu trefniant cenedlaethol o gonsesiynau parcio yn y stryd. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Gellir rhoi Bathodyn Glas i bobl gyda rhai anableddau.  Mae’r Bathodyn Glas ar gyfer ei ddefnyddio mewn cerbyd lle mae deiliad y bathodyn yn teithio un ai fel gyrrwr neu fel teithiwr, ac mae’n eich caniatáu i barcio mewn rhai ardaloedd cyfyngedig am gyfnod cyfyngedig.  Nid yw’r ffaith eich bod yn berchen ar Fathodyn Glas ar hyn o bryd, neu’ch bod wedi cael bathodyn o’r blaen, neu’ch bod wedi bod yn gymwys o’r blaen am Fathodyn Glas, yn golygu y byddwch chi o angenrheidrwydd yn parhau’n gymwys.  Gall rhai awdurdodau lleol ddarparu mannau parcio i ddeiliaid y Bathodyn Glas wrth ymyl eu cartrefi.  Fodd bynnag, mae hyn yn amodol ar bolisi ac amodau lleol, ac argaeledd y cyllid.  Nid yw gweithredwyr meysydd parcio, yn cynnwys awdurdodau lleol, yn gorfod cynnig unrhyw gonsesiwn na thaliadau gostyngedig i ddeiliaid y Bathodyn Glas, er bod rhai yn gwneud hynny.  Dylid gwneud ceisiadau am Fathodyn Glas yn uniongyrchol i’ch cyngor lleol, neu drwy’r wefan http://www.gov.uk/apply-blue-badge

 

Beth allwn ei wneud

Os ydych chi’n meddwl bod diffyg ar benderfyniad y Cyngor yn gwrthod rhoi Bathodyn Glas i chi, i’ch perthynas neu i unigolyn sy’n edrych ar eich ôl, efallai y gallwn eich helpu. Fel arfer, gallwn edrych ar eich cwyn os:

  • bu oedi afresymol gyda’r cais am Fathodyn Glas;
  • oedd diffyg sylweddol ar y broses o asesu eich cais – er enghraifft, nid oedd yn dilyn y ddeddfwriaeth na’r canllawiau mewn perthynas â chymhwysedd;
  • nad oes gan y Cyngor weithdrefn adolygu neu ailasesu ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi cael eu gwrthod am Fathodyn Glas neu os yw wedi methu â defnyddio ei weithdrefn yn briodol.

 

Beth na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • gwestiynu’r meini prawf cymhwysedd a amlinellwyd yn y ddeddfwriaeth;
  • ymgymryd ag asesiad o’ch anghenion gofal iechyd a’ch cymhwysedd am Fathodyn Glas;
  • eich helpu i wneud cais am Fathodyn Glas (ceir sefydliadau eraill a all wneud hyn –gweler ‘gwybodaeth bellach’ isod);
  • dweud wrthych a ddylai Bathodyn Glas fod wedi ei roi neu newid penderfyniad y Cyngor a’i gyfarwyddo i roi Bathodyn Glas i chi;
  • o dan amgylchiadau arferol, ystyried gwynion lle mae hawl apelio statudol ar gael. Os yw Bathodyn Glas wedi cael ei wrthod oherwydd collfarn berthnasol am gamddefnyddio yn y gorffennol, neu lle mae’r Cyngor angen i Fathodyn Glas gael ei ddychwelyd oherwydd ei fod yn credu bod ymgeisydd wedi’i gael drwy ymhoniad anwir, mae hawl apelio i Lywodraeth Cymru.  O ganlyniad, rydym yn annhebygol o allu ystyried cwynion ynglŷn â gwrthodiadau o’r fath.
  • Os ydym yn cadarnhau eich cwyn, gallwn wneud argymhellion i’r Cyngor ynglŷn â beth y dylai wneud.  Gall hyn gynnwys cais i wneud ailasesiad o’ch cais.
  • Nid oes angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr nac unrhyw adfocad arall i wneud eich cwyn i ni; mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn ddiduedd, ac rydym yn anelu at wneud y broses i’r achwynydd mor hawdd ag sy’n bosibl i’w dilyn.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol am gyngor:

Mae Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim i aelodau’r cyhoedd a gellir gweld gwybodaeth benodol ynglŷn â’r Cynllun Bathodyn Glas ar eu gwefan:

https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Budd-daliadau/sick-or-disabled-people-and-carers/help-for-disabled-travellers/

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â’r Cynllun Bathodyn Glas ar ei gwefan:

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2017-11/pwy-syn-gymwys-am-fathodyn-glas.pdf

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2017-09/cynllun-y-bathodyn-glas-hawliau-a-chyfrifoldebau-yng-nghymru.pdf

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru