Mae’r daflen ffeithiau hon yn trafod cyllid gofal iechyd parhaus y GIG. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Mae’n bosibl bod gan bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal neu’n cael gofal yn y cartref hawl i gael cyllid gofal iechyd parhaus y GIG i dalu am eu hanghenion gofal os yw eu hanghenion gofal iechyd meddwl a/neu gorfforol yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Bydd angen i Fyrddau Iechyd, y dylid cyflwyno pob cais am gyllid iddynt yn y lle cyntaf, ystyried anghenion gofal bob unigolyn yn fanwl er mwyn penderfynu ai gofal iechyd yw ei ‘brif angen’. Os oes ‘prif angen am ofal iechyd’ arno, mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd dalu am gostau gofal yr unigolyn hwnnw a/neu wneud trefniadau addas i ddiwallu ei anghenion gofal iechyd. Nid yw cyllid gofal iechyd parhaus y GIG yn seiliedig ar brawf modd.
Gallwch ofyn i’ch Bwrdd Iechyd lleol asesu anghenion rhywun sy’n cael gofal ar hyn o bryd a/neu ofyn am asesiad ôl-weithredol o’i anghenion gofal yn y gorffennol. Fodd bynnag, erbyn hyn mae terfyn o un flwyddyn i’r cyfnod hawlio ar gyfer hawliadau ôl-weithredol a ni fydd hawliadau am ofal cyn y cyfnod hwnnw bellach yn cael eu hystyried. Efallai y bydd gofyn i chi aros ychydig cyn y bydd eich hawliad yn cael ei ystyried. Isod, gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am yr amserlen ar gyfer cyflwyno hawliad a gwybodaeth ddefnyddiol arall drwy ddilyn y dolenni.
Os ydych chi’n meddwl bod penderfyniad y Bwrdd Iechyd i wrthod cyllid gofal iechyd parhaus y GIG i chi, perthynas i chi neu rywun rydych chi’n gofalu amdano, yn ddiffygiol, efallai bydd modd i ni eich helpu. Fel arfer gall ymchwilio i’ch cwyn:
Ni chaiff wneud y canlynol:
Os byddwn yn cadarnhau eich cwyn, efallai y byddem yn cynnig argymhellion i’r Bwrdd Iechyd o ran beth ddylai ei wneud. Gallai hyn gynnwys cais i gynnal asesiad newydd o anghenion gofal iechyd, neu ddefnyddio Panel newydd i ystyried eich apêl.
Nid oes angen i chi ddefnyddio twrnai nac unrhyw adfocad arall i gyflwyno’ch cwyn i ni; mae ein gwasanaeth yn ddiduedd ac am ddim a’n nod yw gwneud y broses mor hawdd â phosibl i’r achwynwyr ei dilyn.
Wrth gyflwyno cwyn am gyllid Gofal Iechyd Parhaus y GIG, rhowch gopi o’r rhestr wirio a/neu ddogfen asesu anghenion Cymru Gyfan, y penderfyniad ysgrifenedig ac (os yw’n berthnasol) penderfyniad ysgrifenedig y Panel.
Os ydych yn gwneud cwyn ar ran rhywun arall, bydd angen i chi ddangos eich bod yn berson addas i gwyno ar eu rhan. Os nad ydynt yn gallu caniatau i chi ddod ar gwyn (er enghraifft, nad oes ganddynt allu meddyliol i wneud hynny) bydd angen i chi rhoi copi o atwenriaeth barhaus neu arhosol neu dystiolaeth o’r penodiad fel derbynnydd neu ddirpwy gan y Llys Gwarchod i weithredu ar ran y person hwnnw.
Efallai yr hoffech chi ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cyngor:
Gall Age Cymru gynnig gwybodaeth a chyngor. Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn ar 08000 223 444 neu gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan – www.ageuk.org.uk/cymru/
Gall MIND gynnig cymorth a chyngor ar amrywiaeth o faterion iechyd meddwl – cysylltwch â nhw dros y ffôn ar 0300 123 3393 neu gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan www.mind.org.uk
Gall y Gymdeithas Alzheimer gynnig cymorth a chefnogaeth. Gallwch gysylltu â nhw ar 0300 222 11 22 neu gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar eu gwefan
www.alzheimers.org.uk
Gall eich Cyngor Iechyd Cymuned lleol gynnig cyngor a chymorth heb i chi orfod gwneud cwyn. Mae manylion cyswllt eich Cyngor Iechyd Cymuned lleol ar gael yn eich llyfr ffôn lleol neu ar wefan Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru yn www.patienthelp.wales.nhs.uk neu ar eu llinell gymorth ar 02920 235 558.
Gallwch gael manylion eich Bwrdd Iechyd lleol yn www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/cyfeiriadur
Gallwch gael manylion y broses o hawlio gofal iechyd parhaus y GIG yn www.gcsgc.org.uk/
Rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd; ni allwn orfodi cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond, yn ymarferol, maent yn gwneud hynny’n ddi-ffael bron. Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru