Gallwn edrych ar gwynion am Ddarparwyr Iechyd Cymunedol Annibynnol, a all gynnwys deintyddion cymunedol, optegwyr a fferyllwyr sy’n darparu gwasanaeth ar eich cyfer dan gontract i’r Bwrdd Iechyd Lleol. Dylech nodi na allwn ond edrych ar gwynion am ofal a ariennir gan y GIG; ni allwn edrych ar driniaeth cymuned a rhoddir yn breifat.
Gall Darparwyr Iechyd Cymunedol Annibynnol fod yn gweithio fel ymarferwyr unigol, gydag ymarferwyr eraill fel rhan o bractis, neu fel rhan o gwmni mwy o faint. Fel arfer, mae staff practis, megis derbynwyr neu nyrsys, yn cael eu cyflogi gan y practis (neu’r cwmni), a bydd hwnnw’n gyfrifol am eu gweithredoedd.
Gallwn:
Ni allwn:
Nid oes gennych hawl i gael eich gweld gan Ymarferydd Cymunedol Annibynnol, ond yn ymarferol mae pobl yn aml yn cael eu gweld gan yr un deintydd neu optegydd. Hefyd, mae sawl achos pryd y mae gan ddeintyddion y caniatâd i wrthod trin cleifion GIG os ydynt wedi cychwyn ar eu triniaeth yn barod; er enghraifft pan fo’r ymarferydd yn teimlo bod y berthynas broffesiynol rhwng y deintydd a’r claf wedi methu. Mewn achosion o’r fath, dylech gael rhesymau pam fod triniaeth yn cael ei gwrthod. Fel arfer, ni ddylai triniaeth gael ei gwrthod o ganlyniad i wneud cwyn.
Wrth edrych ar gwynion ynglŷn â safon y gofal clinigol a gafwyd gan ddeintydd, optegydd neu fferyllydd, byddwn yn asesu a oedd y gofal a ddarparwyd yn un o safon briodol (ar gael ar y dudalen ‘Safonau Clinigol’, o dan y tab ‘Er darparwyr gwasanaeth’) yn yr amgylchiadau ar y pryd.
Gall Llais roi help a chefnogaeth yn rhad ac am ddim i chi wrth i chi wneud cwyn am wasanaeth gan y GIG. Gallwch gysylltu â nhw trwy eu llinell gymorth ar 02920 235 558.
Efallai y gall eich Bwrdd Iechyd Lleol eich cynorthwyo hefyd. Ceir manylion cyswllt y gwahanol Fyrddau Iechyd yng Nghymru yn http://www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/cyfeiriadur.
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru