Mae’r daflen wybodaeth hon yn trafod cwynion am y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru – cwynion ym mhob maes heblaw gofal sylfaenol (e.e. Meddygon Teulu, deintyddion, fferyllfeydd) a gofal parhaus. Mae taflenni gwybodaeth eraill yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r pynciau hyn. Dylid darllen y daflen hon ochr yn ochr â’r llyfryn gwybodaeth gyffredinol sydd ar gael yma.
Mae’r Ombwdsmon yn gallu ystyried cwynion am y gofal a’r driniaeth y mae cleifion yn eu derbyn gan y GIG yng Nghymru. Yn y lle cyntaf, dylai cwynion gan gleifion, neu eu cynrychiolwyr gael eu cyflwyno i’r Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd perthnasol. Gallwch gwyno wrth aelod o staff, wyneb yn wyneb, neu gallwch ysgrifennu at y Bwrdd Iechyd yn nodi manylion eich cwyn. Dylai’r Bwrdd Iechyd wedyn ymchwilio i’ch pryderon ac ymateb i chi trwy lythyr, gan esbonio beth fydd yn digwydd nesaf, a’r opsiynau sydd ar gael i chi – fel arfer, o fewn rhyw chwe wythnos.
Nodir hyn mewn proses ar gyfer ystyried pryderon ynghylch y GIG o’r enw Gweithio i Wella. Gall yr Ombwdsmon ystyried cwynion a wneir iddo o fewn blwyddyn i’r materion y mae’r cwynion yn ymwneud â nhw (neu o fewn blwyddyn i chi ddod i wybod am y mater). Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth ddigwyddodd fwy na blwyddyn yn ôl, ond fe wnaethoch chi gwyno i’r Bwrdd Iechyd (neu’r Ymddiriedolaeth) o fewn blwyddyn, dylech gwyno i’r Ombwdsmon o fewn 12 wythnos i ymateb y Bwrdd Iechyd (neu’r Ymddiriedolaeth).
Gall yr Ombwdsmon astudio’r gofal a dderbyniodd y claf a gofyn i’w gynghorwyr clinigol ei hun ystyried a oedd y driniaeth a ddarparwyd yn briodol. Mae enghreifftiau o’r hyn y gallai eu hystyried yn cynnwys:
Gall yr Ombwdsmon hefyd ystyried a ddeliodd staff y Bwrdd Iechyd â chi mewn ffordd resymol. Mae enghreifftiau o’r math yma o beth yn cynnwys:
Os yw’n canfod bod y driniaeth a ddarparwyd islaw safon briodol neu fod diffygion gweinyddol wedi digwydd, gallai argymell bod y Bwrdd Iechyd yn cymryd camau i unioni’r sefyllfa cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol bosib.
Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ac yn ddiduedd. Nid yw’n gallu gorchymyn cyrff cyhoeddus i ddilyn ei argymhellion – ond, ar lefel ymarferol, maent yn ufuddhau bron yn ddieithriad.
Ni all yr Ombwdsmon:
Yn ogystal â chwynion am wasanaethau a ddarperir gan (neu a gomisiynir drwy) y GIG yng Nghymru, gall yr Ombwdsmon hefyd ystyried cwynion am rai agweddau ar ofal a delir amdano yn breifat. Dim ond pan fydd y tri phrawf canlynol yn cael eu diwallu y gall yr Ombwdsmon wneud hyn:
Bydd gofyn i’r Ombwdsmon farnu a oedd y driniaeth/gofal a ddarparwyd o safon briodol ac o gofio y lleoliad lle’r oedd yn cael ei ddarparu. Er enghraifft, ni fyddai gofal a ddarperid mewn ysbyty cyffredinol yn cael ei farnu yn erbyn y safonau a fyddai’n berthnasol mewn uned arbenigol.
O dan y broses Gweithio i Wella, mae’n rhaid i’r Bwrdd Iechyd ystyried a yw’r sawl sy’n gwneud y gŵyn (neu’r sawl y maent yn ei gynrychioli) wedi dioddef niwed oherwydd iddo fethu yn ei ddyletswydd gofal. Os yw’r Bwrdd Iechyd yn dyfarnu mai felly y bu, gallai gynnig gwneud iawn â chi. Gallai hyn fod yn driniaeth adferol neu iawndal ariannol. Nodwch nad yw’r Ombwdsmon yn gallu cyfeirio achwynydd yn ôl i’r broses Gweithio i Wella unwaith y mae wedi dechrau archwiliad. Os ydych chi eisiau i’ch cwyn gael ei hystyried dan y broses Gweithio i Wella, rhaid i chi wneud hyn cyn gofyn i’r Ombwdsmon ymchwilio i’ch achos.
Gall eich Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) lleol roi cymorth a chefnogaeth am ddim i chi i wneud eich cwyn. Mae manylion cyswllt eich CIC lleol yn eich llyfr ffôn lleol.
Fel arall, gallwch eu cael ar wefan Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru ar www.wales.nhs.uk/siteplus/899/hafan neu drwy eu llinell gymorth ar 02920 235 558.
Ceir enghreifftiau o achosion yr edrychodd yr Ombwdsmon arnynt ar ein gwefan ni. Ewch i www.ombwdsmon.cymru.
Os ydych yn ansicr a fyddai’r Ombwdsmon yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.