Dewis eich iaith
Cau
Yn ôl

Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi sylw i gwynion yn ymwneud ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC). Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygu ac yn rheoleiddio’r holl ofal iechyd yng Nghymru. Mae AGIC yn adolygu ac yn arolygu sefydliadau gofal iechyd y GIG ac annibynnol yng Nghymru er mwyn rhoi sicrwydd fod y gwasanaethau’n ddiogel ac o ansawdd da. Os credwch chi nad yw AGIC wedi dilyn y gyfraith, rheoliadau neu ganllawiau, mae’n bosib y byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn.

Dyma brif gyfrifoldebau AGIC:

  • cynnal arolygiadau, adolygiadau ac ymchwiliadau i wasanaethau gofal iechyd y GIG;
  • cofrestru a rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru yn cynnwys ymchwilio i bryderon gan aelodau o’r cyhoedd fod darparwr annibynnol wedi torri’r rheoliadau sy’n llywodraethu ar ei weithredoedd;
  • darparu gwasanaeth adolygu ym maes iechyd meddwl, yn cynnwys gweithredu Deddf Iechyd Meddwl 1983 a darparu gwasanaeth Meddyg a Benodir i roi Ail Farn i gleifion sy’n cael eu trin a’u cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl; a
  • monitro gweithredu Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid gan y GIG.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn:

  • edrych ar gwynion am ddiffygion gweithdrefnol a gweinyddol sy’n deillio o arolygiad neu adolygiad AGIC o Wasanaeth a Reoleiddir (yn cynnwys gweithredoedd sy’n gysylltiedig â chwyn neu bryder);
  • edrych ar gwynion am ddiffygion gweithdrefnol a gweinyddol sy’n deillio o arolygiad neu adolygiad gan AGIC o wasanaethau’r GIG;
  • edrych ar gwynion lle nad yw AGIC wedi cyflwyno ymateb;
  • ystyried cwynion am broses adrodd AGIC;
  • edrych ar gwynion ynghylch trefniadau gweinyddu gwael gan AGIC.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn:

  • ystyried unrhyw faterion yn ymwneud ag atal o’r gwaith, disgyblu neu faterion personél yn ymwneud â swyddogion AGIC neu’r swyddogion hynny o’r gwasanaethau y mae AGIC yn ymchwilio iddynt;
  • ystyried camau a gymerwyd gan AGIC mewn cysylltiad â mater sy’n cael ei ystyried gan y llysoedd neu sydd wedi cael ei ystyried ganddynt;
  • codi cwestiynau am benderfyniad priodol y mae gan AGIC hawl i’w wneud.

 

Materion i gadw mewn cof

Nid yw swyddogaeth AGIC yn cynnwys delio â chwynion gan gleifion am y driniaeth a gawsant gan y GIG. Gellir delio â materion o’r fath dan drefn gwyno’r GIG. Fodd bynnag, efallai y bydd AGIC yn ymateb i unrhyw wybodaeth a allai awgrymu methiannau systematig yng ngwasanaethau’r GIG. Yn yr un modd, nid swyddogaeth AGIC yw delio â chwynion gan gleifion am driniaeth a gawsant gan ddarparwyr gofal iechyd annibynnol. Fodd bynnag, bydd AGIC yn ystyried cwynion a phryderon gan gleifion a gweithwyr proffesiynol fod darparwyr annibynnol o bosib wedi torri’r rheoliadau perthnasol.

Lle nad yw darparwyr gwasanaethau neu bobl sydd wedi cofrestru ag AGIC yn fodlon ag unrhyw gamau cofrestru neu orfodi y mae AGIC wedi’u cymryd, dylid delio â’r cwynion hyn drwy’r llwybrau a ddarparwyd yn benodol at y diben hwn.

 

Gwybodaeth bellach

Ceir gwybodaeth bellach am AGIC, yn cynnwys ei threfn gwyno, ar ei gwefan: http://www.hiw.org.uk.

Rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i weithredu ar ein hargymhellion – ond yn ymarferol, maent yn gwneud hynny’n ddieithriad bron.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru