Dewis eich iaith
Cau
Yn ôl

Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am y mathau o iawndaliadau ariannol y gallwn eu hargymell.   Dylid ei darllen ar y cyd â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Cwyno’, a’n Taflen Ffeithiau “Rhwymedïau”, sy’n darparu gwybodaeth gyffredinol am y mathau o rwymedïau y gallwn eu hargymell.

Mae’r gyfraith yn cyfyngu ar ein pwerau. Un o’r cyfyngiadau hyn yw na allwn ymchwilio i gŵyn os oes rhwymedi’n bodoli drwy gyfrwng achos llys. Hynny yw, oni bai ein bod yn fodlon nad yw’n rhesymol disgwyl i chi droi at achosion cyfreithiol.

Os mai iawndal ariannol yr ydych chi’n ceisio’n bennaf neu unrhyw rhwymedi arall y byddai achos llys yn ei roi, efallai na fyddwn yn gallu ymchwilio i’ch cwyn.

Er y gallwn argymell iawndal ariannol mewn amgylchiadau penodol, mae’n bwysig cofio bod lefel unrhyw iawndal ariannol y gallwn ei argymell yn annhebygol o fod cymaint â phe baech yn bwrw ymlaen â’ch cwyn yn llwyddiannus drwy’r llysoedd.

 

Sut ydym yn penderfynu ar iawndal ariannol?

Mae ein rôl yn ymwneud ag ystyried amgylchiadau unigol ac ystyrir unigrywiaeth pob achos wrth wneud unrhyw benderfyniad.  Sicrhawn fod unrhyw iawndal ariannol a argymhellir yn deg ac yn gymesur, ac yn ystyried achosion tebyg blaenorol a phenderfyniadau blaenorol a wnaethpwyd.  Mae gennym broses ar waith i sicrhau y caiff penderfyniadau eu goruchwylio.

Mewn sawl achos ni fydd iawndal ariannol yn briodol – bydd rhwymedi arall megis ymddiheuriad neu gamau gweithredu gan y corff sy’n destun cwyn yn ddigon i unioni unrhyw anghyfiawnder a ganfyddir.

Er ein bod yn ystyried eich barn wrth benderfynu pa rwymedi (os unrhyw un) i’w argymell, yn y pen draw, lle’r Ombwdsmon yw penderfynu beth sy’n rhesymol.

Mewn achosion lle rydym wedi penderfynu bod argymell iawndal ariannol yn briodol, i sicrhau cysondeb, defnyddiwn pedair lefel o daliad iawndal fel man cychwyn.  Lluniwyd y pedair lefel i adlewyrchu difrifoldeb yr anghyfiawnder ag achoswyd.   Dyma’r pedair lefel y taliad iawndal:

Lefel 1 £50-£450 – Mân anghyfiawnder a dim effaith hirdymor – er enghraifft, oedi sylweddol wrth ymateb i gŵyn, methiant niferus i ymateb i ohebiaeth neu alwadau ffôn.

Lefel 2 £500-£950 – Anghyfiawnder cymedrol heb unrhyw neu fawr unrhyw o effaith hirdymor – er enghraifft, methiant i ddarparu gwybodaeth gywir mewn ymateb i ymholiadau niferus, oedi osgoadwy wrth ddarparu triniaeth heb unrhyw ganlyniadau hirdymor.

Lefel 3 £1,000-£1,950 – Anghyfiawnder sylweddol gyda chanlyniadau hirdymor posibl – er enghraifft, methu diagnosis neu driniaeth wael ag ôl-effeithiau i glaf, neu ddiffyg cymorth o ran gwasanaethau cymdeithasol yr oedd gan rywun hawl iddo.

Lefel 4 £2,000+ – Anghyfiawnder sylweddol iawn gyda chanlyniadau hirdymor – er enghraifft, niwed hynod ddifrifol, megis marwolaeth osgoadwy.

 

Materion i gadw mewn cof

Gall iawndal ariannol fod yn berthnasol pan fydd camweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan y corff sy’n destun cwyn wedi achosi anghyfiawnder sylweddol ichi (neu’r unigolyn rydych yn ei gynrychioli). Fodd bynnag, fel yr amlinellir yn y Daflen Ffeithiau “Rhwymedïau”, gallwn ystyried o dan yr amgylchiadau hynny bod gennych rwymedi arall sydd ar gael yn rhesymol drwy’r llysoedd.

 

Rhagor o Wybodaeth

Gellir dod o hyd i enghreifftiau o achosion blaenorol ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’ a ‘Coflyfr yr Ombwdsmon’.

 

Cysylltwch â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu ystyried eich cwyn, cysylltwch â ni ar 0300 790 0203 neu holwch@ombwdsmon.cymru