CAFCASS CYMRU
Cyflwyniad
Mae’r daflen ffeithiau hon yn cynnwys cwynion ynghylch Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (CAFCASS CYMRU). Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Mae CAFCASS CYMRU yn sefydliad o fewn Llywodraeth Cymru, ac yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sy’n gysylltiedig ag achosion llys teulu. Mae’n annibynnol ar y llysoedd, y gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdodau addysg ac iechyd ac asiantaethau tebyg. Mae’n hyrwyddo budd plant sy’n gysylltiedig ag achosion teulu, gan gynghori’r llysoedd teulu ynghylch yr hyn y mae’n ei ystyried sydd o’r budd mwyaf i’r plant dan sylw.
Ei rôl yw:
- diogelu a hyrwyddo lles plant;
- cynghori’r llysoedd teulu;
- darparu fel bo’r plant yn cael eu cynrychioli;
- darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a’u teuluoedd.
Yr hyn gallwn ei wneud
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd weinyddol y mae CAFCASS CYMRU yn delio â’ch achos, gallwch gwyno wrthym ni am y broses honno.
Gallwn:
- Edrych ar unrhyw fethiannau gweinyddol yn y ffordd y mae CAFCASS wedi delio â chi a’ch achos;
- ystyried cwyn am sut mae CAFCASS CYMRU wedi dilyn ei drefn gwyno, neu unrhyw gam ohoni.
Yr hyn na allwn ei wneud
Ni allwn:
- ystyried unrhyw faterion gohirio, disgyblu neu unrhyw faterion personél ynghylch aelodau o staff CAFCASS CYMRU;
- cymryd unrhyw gamau yng nghyswllt cychwyn neu gynnal achos cyfreithiol gerbron llys barn. Os ydych chi’n anfodlon â phenderfyniad y Llys, yna efallai y byddwch yn awyddus i ystyried cymryd cyngor cyfreithiol;
- edrych ar neu cymryd camau yng nghyswllt unrhyw adroddiad a gaiff ei baratoi at ddibenion achos llys.
Materion i gadw mewn cof
- Os ydych chi’n anhapus â chynnwys adroddiad CAFCASS CYMRU sydd wedi’i baratoi at ddibenion achos llys, yna dylech fanteisio ar y cyfle i fynegi ac egluro unrhyw bryderon ynghylch yr adroddiad yn yr achos Llys.
- Nid oes angen i chi ddefnyddio twrnai nac unrhyw adfocad arall i gyflwyno’ch cwyn i ni; mae ein gwasanaeth yn ddiduedd ac am ddim a’n nod yw gwneud y broses mor hawdd â phosibl i’r achwynwyr ei dilyn.
Gwybodaeth bellach
Efallai yr hoffech chi ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cyngor:
- CAFCASS CYMRU – https://llyw.cymru/cafcass-cymru
- Comisiynydd Plant Cymru, a allai weithredu fel adfocad ar ran plentyn – https://www.complantcymru.org.uk/
- Mae Meic yn wasanaeth llinell gymorth sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru – https://www.meiccymru.org
Rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd; ni allwn orfodi cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond, yn ymarferol, maent yn gwneud hynny’n ddi-ffael bron.
Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Cysylltu â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru