Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn rhoi sylw i gwynion yn ymwneud ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae AGC yn gyfrifol am annog gwelliannau ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gwasanaethau cymdeithasol.  Mae’n cyflawni’r nod hwn drwy reoleiddio, arolygu ac adolygu. Os credwch chi nad yw AGC wedi dilyn y gyfraith, rheoliadau neu ganllawiau, mae’n bosib y byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn.  Fel arfer, byddwn yn disgwyl i chi gwyno wrth AGC (Llywodraeth Cymru) ei hun yn gyntaf.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn:

  • edrych ar gwynion am ddiffygion gweithdrefnol a gweinyddol sy’n deillio o swyddogaeth reoleiddio AGC;
  • edrych ar gwynion am ddiffygion gweithdrefnol a gweinyddol sy’n deillio yn ystod adolygiad AGC o Wasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Leol;
  • edrych ar gwynion lle nad yw AGC wedi cyflwyno ymateb neu lle mae wedi cyflwyno ymateb anfoddhaol;
  • ystyried cwynion am broses adrodd AGC.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • ystyried unrhyw faterion yn ymwneud ag atal o’r gwaith, disgyblu neu faterion personél yn ymwneud â swyddogion AGC neu’r cyrff mae’n eu rheoleiddio neu’n eu harolygu;
  • codi cwestiynau am benderfyniad priodol y mae gan AGC hawl i’w wneud.

 

Materion i gadw mewn cof

  • Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Wasanaethau Rheoledig gael eu gweithdrefn gwyno eu hunain. Mae’n bosib y bydd Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol yn cael eu cynnwys hefyd wrth ystyried cwynion am wasanaethau rheoledig lle mae wedi prynu gofal ar ran rhywun.  Gallwn hefyd ymchwilio i gwynion a wnaed gan bobl sy’n ariannu eu gofal eu hunain mewn cartrefi gofal a thrwy wasanaethau gofal cartref. Mae AGC yn ymddiddori yn natur y cwynion mewn gwasanaethau rheoledig ac mae’n gyfrifol am wirio sut y cydymffurfir â’r fframwaith cyfreithiol.
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdod Lleol sy’n ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb dros ddiogelu plant ac oedolion.  Maent yn gweithio gyda chyrff statudol eraill er mwyn cyflawni’r swyddogaeth hon.
  • Dylid delio â chwynion am y ‘Gwasanaethau Cymdeithasol’ dan weithdrefn Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol ei hun yn gyntaf (gweler “Canllaw ar gyfer delio â chwynion a chynrychiolaeth gan wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol”).
  • Mae gan Ddarparwyr gwasanaethau hefyd hawliau i gyflwyno sylwadau i AGC ac i apelio ar faterion rheoleiddio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal.

 

Gwybodaeth bellach

Gellir cael gwybodaeth bellach am AGC, yn cynnwys copïau o adroddiadau arolygu, ar ei gwefan: https://arolygiaethgofal.cymru/

Os ydych chi am apelio yn erbyn penderfyniad rheoleiddio a wnaethpwyd gan AGC, a’ch bod eisoes wedi cyflwyno sylwadau i AGC, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Safonau Gofal:

Tribiwnlys Safonau Gofal, Llawr 1af, Llys Ynadon Darlington, Parkgate, DL1 1RU; Ffôn: 01325 289350; E-bost: cst@justice.gov.uk

Os oes gennych chi gŵyn am ymddygiad gweithiwr cymdeithasol neu weithiwr gofal, gallwch gysylltu â Gofal Cymdeithasol Cymru:

Gofal Cymdeithasol Cymru , Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW; Ffôn: 0300 30 33 444
E-bost: gwybodaeth@gofalcymdeithasol.cymru
Gwefan: https://gofalcymdeithasol.cymru

Rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i weithredu ein hargymhellion – ond yn ymarferol, maent yn gwneud hynny’n ddieithriad bron.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen