Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch Diogelu Oedolion. Cyfeiriwyd ati’n flaenorol fel y broses Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed rhag Camdriniaeth (“POVA” yn Saesneg). Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae diogelu oedolion yn disgrifio’r gwaith o amddiffyn oedolion rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Mae’n flaenoriaeth a rennir gan sawl gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys Cynghorau, yr Heddlu a Byrddau Iechyd. Mae’r daflen ffeithiau hon yn ymwneud â chwynion am ddiogelu oedolion gan adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor.

Dylid cwyno ynghylch y gofal a roddir i oedolyn sy’n wynebu risg i’r Cyngor yn y lle cyntaf, a bydd yna’n cael ei ystyried o dan y weithdrefn statudol o ran diogelu oedolion a’r weithdrefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Fel arfer, byddwn yn disgwyl i chi fod wedi defnyddio’r gweithdrefnau hynny cyn cwyno i ni. Fodd bynnag, os oes rhesymau da pam nad yw hyn yn bosibl, efallai y byddwn yn ystyried derbyn cwyn cyn hynny.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn:

  • edrych ar gŵyn bod oedolyn sy’n wynebu risg wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad i fethiant gwasanaeth neu fethiant gweinyddol gan awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru;
  • edrych ar gŵyn ynghylch a yw Gwasanaethau Cymdeithasol wedi dilyn y weithdrefn statudol o ran diogelu oedolion a gweithdrefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol;
  • edrych ar gŵyn bod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi methu â gweithredu argymhellion y swyddog ymchwilio annibynnol yng Ngham 2 yn y weithdrefn gwyno statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • ymchwilio’n uniongyrchol i gwynion o gam-drin. Cyfrifoldeb y cyrff sy’n cyflawni rôl Amddiffyn Oedolion yw hynny;
  • edrych ar faterion gwahardd, disgyblu neu faterion personél yn ymwneud ag aelodau o staff y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Materion i gadw mewn cof

Gallwn ymchwilio i gwynion am y camau a gymerwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol yng nghyswllt Amddiffyn Oedolion. Gallwn hefyd edrych ar gwynion am y camau a gymerwyd gan Wasanaeth Iechyd mewn achosion o’r fath. Fodd bynnag, ni allwn ystyried unrhyw gwynion am yr Heddlu. Os ydych am gwyno am y rhan a chwaraewyd gan yr Heddlu ar unrhyw fater Amddiffyn Oedolion, rhaid i chi gwyno wrth y Comisiynydd heddlu perthnasol.

Gall Byrddau Iechyd hefyd fod yn gyfrifol am gydlynu ymchwiliad diogelu oedolion hefyd dan amgylchiadau lle ceir honiadau bod cam-drin wedi bod mewn safle dan ofal y GIG neu le ceir honiadau bod gweithiwr y GIG wedi cam-drin oedolyn agored i niwed.

Gallwn ymchwilio hefyd i gwynion am Fwrdd Iechyd a’r ffordd mae’n rheoli pryderon diogelu oedolion. Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliadau i unrhyw droseddau honedig. Gall y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS yn Saesneg) wirio a yw unigolyn ar un o ddwy ’restr waharddedig’ DBS (rhestrau gwaharddedig ISA gynt) o unigolion sy’n anaddas i weithio gyda phlant ac oedolion. Ni all pobl yn y rhestrau gwaharddedig wneud rhai mathau o swyddi yn cynnwys rhestr gweithwyr gofal sy’n gyflogedig mewn cartrefi gofal cofrestredig, gweithwyr gofal a gyflogir gan ddarparwyr gofal personol cofrestredig yng nghartrefi personol pobl, a gofalwyr mewn lleoliadau i oedolion.

Efallai y bydd yn rhaid i ni rannu gwybodaeth â chyrff eraill lle ni’n gweld bod iechyd a diogelwch un neu fwy o bobl dan fygythiad ac rydym yn credu y dylai’r wybodaeth gael ei datgelu er lles y cyhoedd.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai y byddwch am gysylltu â’r mudiadau canlynol am gyngor:

Gallwch gysylltu ag Age Cymru drwy ffonio 08000 223 444 neu drwy fynd i’w gwefan yn https://www.ageuk.org.uk/cymru

Mae Mind Cymru yn rhoi cymorth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0300 123 3393 neu drwy eu gwefan yn https://www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru

Mae MENCAP Cymru yn cynnig cymorth, gwybodaeth a chymorth ar unrhyw beth sy’n ymwneud ag anableddau dysgu. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0808 8000 300 neu drwy eu gwefan yn https://wales.mencap.org.uk/

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru