Mae’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol (“y Cod”) ar gyfer cynghorwyr yn nodi’r safonau uchel o ymddygiad y mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan eu cynrychiolwyr etholedig a chyfetholedig.

Ein rôl yw ystyried a lle bo’n briodol, ymchwilio i gwynion bod aelodau o awdurdodau lleol ac awdurdodau perthnasol eraill yng Nghymru wedi torri Cod Ymddygiad (Adran 69 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a Gorchmynion perthnasol a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y Ddeddf honno) eu hawdurdod.

Rydym yn ymrwymedig i ymchwilio i faterion sy’n ddifrifol ac sy’n gallu tanseilio’r berthynas rhwng cynghorwyr a’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu.  Mae’r mathau o gwynion y gallwn ymchwilio iddynt yn cynnwys honiadau o lygru, gwahaniaethu, bwlio, camddefnydd o bŵer mewn swyddi cyhoeddus, a gweithgareddau neu ymddygiad sy’n effeithio’n sylweddol ac yn negyddol ar enw da neu swyddogaeth yr awdurdod.

Yn ystod archwiliad, gallwn gyhoeddi adroddiad interim (Adran 72) cyn i’r ymchwiliad hwnnw ddod i ben, os yw’n ymddangos o’r dystiolaeth y dylai’r mater gael ei gyfeirio ar unwaith i’w ystyried gan Lywydd Panel Dyfarnu Cymru (“PDC”). Wrth wneud hynny, gallwn hefyd argymell bod yr aelod hwnnw yn cael ei atal o’r awdurdod y’i hapwyntir neu y’i cyfetholir iddo.

Fel arfer bydd gweithredu o’r fath ond yn digwydd pan fyddwn yn fodlon bod:

  • tystiolaeth prima facie bod yr aelod sy’n destun yr adroddiad interim wedi methu â chydymffurfio gyda Chod Ymddygiad yr awdurdod dan sylw;
  • natur y methiant hwnnw yn debygol o arwain at waharddiad gan yr PDC; ac
  • mae er budd y cyhoedd i atal yr aelod hwnnw’n rhannol ar unwaith o’i awdurdod neu weithgareddau penodol yn ei rôl fel aelod.

 

Ystyriaethau

Ni fyddwn yn cymryd camau o’r fath yn ysgafn, a rhaid i ni ystyried bod gwneud hynny yn angenrheidiol ac er budd y cyhoedd. Gall ffactorau a allai ddylanwadu ar benderfyniad o’r math hwn gynnwys (ond heb eu cyfyngu i) yr angen i:

  • ddiogelu unrhyw risg a achosir i’r cyhoedd gan y Cynghorydd yn eu rôl fel aelod;
  • lleihau unrhyw darfu ar fusnes y cyngor y mae’r Cynghorydd yn aelod ohono;
  • cynnal enw da’r Cyngor;
  • diogelu’r Cyngor rhag her gyfreithiol;
  • atal bygythiadau neu unrhyw ymgais i gyfaddawdu swyddogion y Cyngor neu geisio cael gafael ar wybodaeth; neu
  • hwyluso ymchwiliad effeithiol a hwylus yr Ombwdsmon i’r gŵyn.

 

Proses

Pan fyddwn yn cynhyrchu adroddiad interim, bydd copïau ohono’n cael ei rannu gyda:

  • yr aelod sy’n destun yr adroddiad;
  • swyddog monitro’r awdurdod perthnasol (neu unrhyw awdurdod perthnasol y mae’r aelod wedi ei ethol neu ei gyfethol iddo); a
  • llywydd Panel Dyfarnu Cymru.

Bydd unrhyw adroddiad interim a gyhoeddir gennym yn cael ei ystyried gan dribiwnlys achos interim PDC fydd yn penderfynu a ddylid atal yn llawn neu’n rhannol yr aelod neu’r aelod cyfetholedig o’r Cyngor neu o’i rôl.

Gallwn atal ein hymchwiliad wrth i ni aros am ganlyniad unrhyw dribiwnlys interim.

Gellir atal neu wahardd yn rhannol am hyd at 6 mis neu am gyfnod byrrach hyd at ddiwedd cyfnod yr aelod yn y swydd. Yn wahanol i dribiwnlysoedd achos ac apêl  PDC, nid yw tribiwnlys interim yn fater disgyblu.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru