Mae gan yr Ombwdsmon y pŵer i gynnal ‘ymchwiliadau ar ei liwt ei hun’. Mae hyn yn golygu y gall ymchwilio i faterion, lle mae ganddo amheuaeth resymol o gamweinyddu eang neu fethiant gwasanaeth gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, hyd yn oed os nad yw wedi derbyn cwyn yn ei gylch gan unigolyn. Gall yr Ombwdsmon gwblhau dau fath o ymchwiliad ‘ar ei liwt ei hun’:
Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut bydd yr Ombwdsmon yn defnyddio ei bwerau ymchwilio ar ei liwt ei hun yn ehangach.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am Ymchwiliadau ar ei Liwt ei Hun estynedig yma.
Gall yr Ombwdsmon agor ymchwiliad ehangach ar ei liwt ei hun pan fydd yn fodlon bod tystiolaeth yn awgrymu neu’n dangos bod camweinyddu/methiant gwasanaeth eang wedi digwydd, yn bodoli’n barod neu bod potensial i hynny ddigwydd.
Gall ymchwiliad ar ei liwt ei hun ystyried rhan neu sector cyfan o wasanaeth a ddarperir gan gorff cyhoeddus yng Nghymru a/neu bryderon sy’n ymwneud â mwy nag un corff.
Bydd yr Ombwdsmon yn ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael iddo i sefydlu a oes angen dechrau ymchwiliad. Bydd hefyd yn ystyried a yw’r meini prawf i wneud hynny yn cael eu bodloni, gan gynnwys:
Nid oes diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn eang ar gyfer budd y cyhoedd, ond mae wedi cael ei ddisgrifio fel “rhywbeth sydd o bwysigrwydd a diddordeb sylweddol i’r cyhoedd”. Mae budd y cyhoedd felly’n ymwneud â rhywbeth sy’n effeithio ar y cyhoedd. Mae’n golygu mwy na rywbeth mae gan y cyhoedd ddiddordeb ynddo, neu fater sy’n effeithio ar unigolyn a neb arall (ond gallai’r mater effeithio’n fwy uniongyrchol ar yr unigolyn na’r cyhoedd yn ehangach).
Nid ydy cyhoedd yn y cyd-destun hwn yn golygu poblogaeth gyfan Cymru o reidrwydd. Gall gyfeirio at ran benodol o’r cyhoedd, megis cymuned fach neu grŵp buddiant.
Er y gall yr Ombwdsmon ystyried gwybodaeth a ddarperir iddo gan weithwyr sy’n trosglwyddo gwybodaeth ynghylch camwedd yn eu gweithle (chwythwyr chwiban), ni fydd unrhyw ymchwiliad sy’n deillio o hyn yn disodli nac yn ymyrryd â dyletswyddau, cyfrifoldebau a phrosesau chwythu’r chwiban y cyrff cyhoeddus dan sylw. Bydd yr Ombwdsmon yn cyfeirio unrhyw chwythwyr chwiban posibl at y corff dan sylw neu unigolyn priodol i’w ystyried.
Mae cwynion am ddigwyddiadau penodol neu gwynion am gamweinyddu/methiant gwasanaeth sy’n effeithio ar aelodau unigol o’r cyhoedd yn unig yn annhebygol o fodloni’r meini prawf ar gyfer ymchwiliad ar ei liwt ei hun. Mae materion o’r fath yn fwy priodol i’w hystyried gan ddefnyddio pwerau ymchwilio cyffredinol yr Ombwdsmon.
Pan fydd yr Ombwdsmon o’r farn y dylai ddechrau ymchwiliad, bydd yn trefnu ymarfer ymgynghori â rheoleiddwyr cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i ofyn am farn ar briodoldeb ymchwiliad. Gall fod yn bosibl cydweithio ag un o’r cyrff hyn i gynnal ymchwiliad ar y cyd a llunio adroddiad.
Mewn rhai achosion gall yr Ombwdsmon ofyn barn y cyhoedd yn ehangach, drwy hysbysebu’r ymchwiliad arfaethedig ar wefan yr Ombwdsmon, yn y cyfryngau a/neu drwy gynnal digwyddiadau trafod.
Gall y canlynol gyflwyno awgrymiadau ar gyfer ymchwiliadau ar ei liwt ei hun:
• Y cyhoedd
• Grwpiau defnyddwyr gwasanaethau, elusennau neu sefydliadau gwirfoddol
• Gwasanaethau eiriol
Os ydych chi’n dymuno awgrymu ymchwiliad, gallwch wneud hynny yma.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi am ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, cysylltwch â ni
Areiliwteihun@Ombwdsmon.cymru