Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae gan gynghorau amrediad eang o ddyletswyddau a phwerau i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gymuned a rhaid iddynt weithio gyda chyrff eraill fel yr heddlu i geisio datrys problemau o’r fath. Mae rhai ymddygiadau yn cael eu hystyried yn droseddau a’r heddlu ddylai ddelio â nhw. Fel landlordiaid, mae gan gynghorau a chymdeithasau tai ddyletswyddau penodol i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr eiddo a reolir ganddynt. Dim ond nhw sy’n gallu cyflawni rhai gweithredoedd penodol (e.e. achosion adfeddiannu os yw’r ymddygiad yn torri amodau’r cytundeb tenantiaeth). Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gynnwys gormod o sŵn, harasio, cam-drin geiriol, bygythiadau a fandaliaeth.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn edrych i weld a oes unrhyw beth o’i le gyda’r ffordd y deliodd y cyngor neu’r gymdeithas dai â chwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gall hyn gynnwys:

  • methu cael gweithdrefnau priodol yn eu lle i roi arweiniad i staff ar sut i gofnodi, ymchwilio i a monitro achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol;
  • methu egluro i bobl sy’n cwyno beth yw eu gweithdrefnau a sut y bydd cwynion yn cael eu cofnodi a’u hymchwilio iddynt;
  •  methu ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i ddod â’r ymddygiad dan reolaeth neu ystyried yr holl sancsiynau cyfreithiol y gellid eu defnyddio;
  • methu gweithio gydag asiantaethau eraill fel yr heddlu i geisio datrys y problemau;
  • methu cynnig cymorth i ddioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol, eu diweddaru ynghylch beth sy’n digwydd neu fethu ystyried cymryd camau i’w cadw’n ddiogel;
  • methu delio â’r person sy’n achosi’r broblem, yn brydlon. Credwn y dylid datrys y rhan fwyaf o achosion o fewn tri mis ond dylid rhoi blaenoriaeth uwch i achosion sy’n cynnwys cam-drin hiliol neu fygythiadau corfforol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn:

  • fel rheol, edrych ar fethiannau a ddigwyddodd fwy na deuddeng mis yn ôl a lle mae’r niwsans wedi dod i ben;
  • edrych ar bryderon sydd efallai gennych ond nad ydych wedi eu dwyn at sylw’r corff cyfrifol eto. Dylech roi cyfle i’r cyngor neu’r gymdeithas dai ddatrys pethau cyn ichi gwyno i ni.

 

Materion i gadw mewn cof

Mae’n syniad da cadw cofnod o bryd y dechreuodd y niwsans, sut niwsans ydoedd a phryd ichi ddwyn y problemau hyn at sylw’r corff cyfrifol ynghyd ag unrhyw ohebiaeth a dderbynioch, gan gynnwys e-byst. Byddwn yn gofyn am y wybodaeth yma ac am eich hanes chi o ddigwyddiadau i benderfynu a ddylem ymchwilio i’ch cwyn neu beidio.

 

Gwybodaeth bellach

Mae nifer o gyrff sy’n rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus ar sut i ddelio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Dyma rai o’r prif gyrff:

Rydym yn annibynnol a di-duedd. Ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru