Cynnwys

Mae’r daflen ffeithiau hon yn sôn am rôl asiantaethau gorfodi, a elwid gynt yn beilïaid, wrth adennill treth gyngor, ardrethi busnes a dyledion traffig ffyrdd sy’n ddyledus i gynghorau. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

 

Yr hyn y gallwn ei wneud

Gallwn ystyried cwynion yn ymwneud â:

  • dim digon o rybudd i ddyledwr ynglŷn â’r ddyled neu’r ffioedd dan sylw
  • codi ffioedd heb sail gyfreithiol, neu am gamau heb eu cymryd
  • cymryd rheolaeth o gerbyd, neu symud cerbyd sydd ddim yn eiddo i’r dyledwr
  • peidio â chymryd sylw o’r ffaith bod dyledwr yn fregus
  • methiannau ar ran corff cyhoeddus i ymchwilio i gŵyn am asiant gorfodi yn gweithredu ar ei ran

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Nid ydym yn gallu:

  • ymchwilio i gŵyn am addasrwydd i ymarfer yr asiant gorfodi
  • ymchwilio i gwynion y mae llys siriol wedi edrych yn flaenorol arnynt
  • newid y swm sy’n ddyledus gan y dyledwr
  • dileu ffioedd a thaliadau rhesymol
  • atal rhagor o weithgarwch gorfodi am y tro
  •  ymchwilio i’r sail dros orchymyn llys ar ôl iddo gael ei wneud
  • rhoi gorchymyn i asiant gorfodi dderbyn taliad llai neu rhandaliadau.

 

Materion i gadw mewn cof

Dim ond cwynion am asiantaethau gorfodi sy’n gweithredu ar ran corff cyhoeddus y gallwn eu hystyried.

Rydym yn sylweddoli bod gan asiantaethau gorfodi rôl gyfreithlon yn y gwaith o adennill dyledion, ac rydym yn cydnabod mai profiad annymunol yw ymweliad ganddynt. Bydd asiantaethau gorfodi yn cymryd eich eiddo os na fyddant yn cael eu talu, ac mae caniatâd iddynt godi ffioedd a chostau ar ben y ddyled.

Fel arfer, rydym yn disgwyl i rywun apelio i lys os oes ganddynt hawl i wneud hynny. Gellir gwneud cwynion am daliadau neu am ymddygiad neu addasrwydd i ymarfer asiant gorfodi i’r llys siriol lle cafodd ei dystysgrif i weithredu.

Efallai y byddwn yn teimlo ei bod yn rhesymol i’r sawl sy’n gwneud y gŵyn gymryd camau cyfreithiol, yn benodol os oes honiad o gamymddwyn difrifol neu os nad yw’r gyfraith neu’r ffeithiau’n glir.  Fodd bynnag, efallai y bydd costau yn gysylltiedig a dylid cael cyngor cyfreithiol gan ymarferydd cyfreithiol cymwys cyn gwneud hynny.

 

Gwybodaeth bellach

Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ynglŷn ag arian a dyledion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltwch â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen