Asiantau Gorfodi (beiliaid)
Cynnwys
Mae’r daflen ffeithiau hon yn sôn am rôl asiantaethau gorfodi, a elwir yn gyffredin yn feiliaid, wrth adennill treth gyngor, ardrethi busnes a dyledion traffig sy’n ddyledus i gynghorau.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â gweithredoedd beili wrth gasglu treth y cyngor, trethi busnes neu gosbau gorfodi traffig, yna gallwn fel arfer ystyried eich cwyn. Mae hyn oherwydd bod y beili yn gweithredu ar ran cyngor. Fodd bynnag, ni allwn ystyried cwyn os yw beili yn adennill dyledion eraill a phan mae’n gweithredu ar ran y llys.
Fel arfer, dylech gwyno i’r cyngor yn gyntaf. Gall ofyn i’r beili ystyried eich cwyn yn gyntaf i weld a all ei datrys. Os ydych chi’n dal i fod yn anfodlon, dylai’r cyngor ymateb i’ch cwyn yn lle hynny. Gallwch chi wedyn gwyno wrthym ni.
Yr hyn y gallwn ei wneud
Gallwn ystyried cwynion yn ymwneud â:
- dim digon o rybudd i ddyledwr ynglŷn â’r ddyled neu’r ffioedd dan sylw
- corff cyhoeddus sy’n methu ag ymchwilio i gŵyn am asiant gorfodi sy’n gweithredu ar ei ran
- a ddilynodd yr asiant gorfodi’r weithdrefn briodol a oedd ar waith
- a wnaeth yr asiant gorfodi ymddwyn mewn modd bygythiol
- a gododd y beili’r costau a’r ffioedd cywir
- a fethodd y beili ag ystyried pa mor agored i niwed oedd dyledwr
Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud
Nid ydym yn gallu:
- ymchwilio i gŵyn am addasrwydd i ymarfer yr asiant gorfodi
- ymchwilio i gwynion y mae llys siriol wedi edrych yn flaenorol arnynt
- newid y swm sy’n ddyledus gan y dyledwr
- dileu ffioedd a thaliadau rhesymol
- atal rhagor o weithgarwch gorfodi am y tro
- ymchwilio i’r sail dros orchymyn llys ar ôl iddo gael ei wneud
- rhoi gorchymyn i asiant gorfodi dderbyn taliad llai neu rhandaliadau.
- ymchwilio i gwynion am weithredoedd asiantau gorfodi wrth adennill dyledion eraill.
- ymchwilio i gwynion am asiant gorfodi sy’n eich troi allan o’ch cartref.
Materion i gadw mewn cof
Dim ond cwynion am asiantaethau gorfodi sy’n gweithredu ar ran corff cyhoeddus y gallwn eu hystyried.
Rydym yn sylweddoli bod gan asiantaethau gorfodi rôl gyfreithlon yn y gwaith o adennill dyledion, ac rydym yn cydnabod mai profiad annymunol yw ymweliad ganddynt. Bydd asiantaethau gorfodi yn cymryd eich eiddo os na fyddant yn cael eu talu, ac mae caniatâd iddynt godi ffioedd a chostau ar ben y ddyled.
Fel arfer, rydym yn disgwyl i rywun apelio i lys os oes ganddynt hawl i wneud hynny. Gellir gwneud cwynion am daliadau neu am ymddygiad neu addasrwydd i ymarfer asiant gorfodi i’r llys siriol lle cafodd ei dystysgrif i weithredu.
Efallai y byddwn yn teimlo ei bod yn rhesymol i’r sawl sy’n gwneud y gŵyn gymryd camau cyfreithiol, yn benodol os oes honiad o gamymddwyn difrifol neu os nad yw’r gyfraith neu’r ffeithiau’n glir. Fodd bynnag, efallai y bydd costau yn gysylltiedig a dylid cael cyngor cyfreithiol gan ymarferydd cyfreithiol cymwys cyn gwneud hynny.
Gwybodaeth bellach
Gall Cyngor ar Bopeth gynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim ynglŷn ag arian a dyledion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/
Mae’r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi (ECB) yn darparu goruchwyliaeth annibynnol o’r diwydiant gorfodi i sicrhau bod pawb sy’n destun camau gorfodi yng Nghymru a Lloegr yn cael eu trin yn deg. Mae’r ECB yn ymchwilio i gwynion am arferion gorfodi gwael yng Nghymru a Lloegr a gall argymell rhwymedi addas lle mae’r arfer gwael wedi achosi anghyfiawnder i unigolyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://enforcementconductboard.org/
Mae’r ‘National Debtline’ yn elusen sy’n darparu cyngor cyfrinachol ac annibynnol am ddim ar eich hawliau a sut i ddelio â phroblemau dyled, gan gynnwys gwybodaeth am asiantau gorfodi a chasglu treth y cyngor. Gallwch gysylltu â’r ‘National Debtline’ am ddim ar 0808 808 4000, o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am – 8pm a dydd Sadwrn 9.30am – 1pm, a dod o hyd i ragor o wybodaeth o’u gwefan: www.nationaldebtline.org
Cysylltwch â ni
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203.