Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch Derbyn i Ysgolion ac Apeliadau. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Dylid cwyno ynghylch derbyn i ysgolion i’r Awdurdod Addysg Lleol perthnasol yn y lle cyntaf, ond gallwch gwyno ynghylch apeliadau derbyn i ysgolion yn syth i ni.
Gallwn:
Os ydych yn dymuno cwyno i ni, cofiwch wneud hynny cyn gynted â phosibl.
Ni allwn:
Rhaid i Awdurdodau Addysg Lleol a Phaneli Apêl Derbyn i Ysgolion ystyried y Codau Statudol ar Dderbyn i Ysgolion ac Apeliadau. Gallwch lawrlwytho copïau o wefan Llywodraeth Cymru yn
https://llyw.cymru/y-cod-derbyn-i-ysgolion
https://llyw.cymru/y-cod-apelau-derbyn-i-ysgolion
Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent hwy yn gwneud hynny bron bob tro. Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru