Mae hon yn Daflen Ffeithiau am gwynion cyffredinol yn erbyn ysgolion. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â derbyn i ysgol, gwaharddiadau o ysgol neu anghenion addysgol arbennig, rydym wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau ar wahân, penodol, sy’n edrych ar y pynciau hyn.
Fel yr esbonia’r adran nesaf, mae ein rôl o ran cwynion yn erbyn ysgolion yn gyfyngedig iawn. Er ein bod weithiau’n gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn gweithredoedd awdurdod o ran ochr weinyddol trefn gwyno neu adolygu, ni fyddai hyn yn cynnwys ystyried y prif faterion sy’n arwain at y gŵyn.
O ganlyniad, er bod modd i ni ystyried cwyn fod cyngor lleol (fel rhan o’i swyddogaeth fel Awdurdod Addysg Lleol), er enghraifft, wedi cymryd gormod o amser i adolygu cwyn yn erbyn proses gwyno ysgol, ni allwn ystyried y materion a godwyd yn wreiddiol yn y gŵyn i’r ysgol ei hun.
Oherwydd natur gyfyngedig ein pwerau o ran materion yn ymwneud ag ysgolion, byddem yn eich annog i gysylltu â’n Tîm Cyngor ar Gwynion cyn anfon cwyn ysgrifenedig atom i weld a ydym yn debygol o allu ystyried eich cwyn.
Mae ein rôl yn achos cwynion yn erbyn ysgolion yn cael ei chyfyngu’n fawr gan y gyfraith.
Nid oes gan Awdurdodau Addysg Lleol ac awdurdodau esgobol (yn achos ysgolion ffydd) rôl statudol o ran datrys cwynion yn erbyn ysgolion gan mai corff llywodraethu’r ysgol sy’n gyfrifol am hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i gyrff llywodraethu ysgolion ar strwythur trefn gwyno ffurfiol. Mae copi o’r canllaw ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn: http://gov.wales/docs/dcells/publications/121002complaintsschoolscy.pdf
Gall y Ganolfan Ymgynghorol ar Addysg (ACE) gynnig cyngor i rieni ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag ysgolion, gan gynnwys bwlio, polisïau derbyn ysgolion, gwahardd ac anghenion addysgol arbennig. Gallwch ffonio eu llinell gyngor ar 0300 0115 142 rhwng 10am ac 1pm, dydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor ysgol. Cyfeiriad ei gwefan yw http://www.ace-ed.org.uk/
Rydym yn annibynnol ac amhleidiol; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn rydym yn ei argymell – ond, yn ymarferol, maent yn gwneud hynny bron yn ddieithriad.
Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.
Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru