Dyddiad yr Adroddiad

05/13/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202208314

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr E am y modd yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi delio a’i gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi hysbysu Mr E eu bod wedi cwblhau eu proses cwynion ac nad oeddent wedi mynd i’r afael â’r holl elfennau yn ei gŵyn. Dywedodd bod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr E. Penderfynodd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon a chafodd gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr E, darparu esboniad o’r methiant, cynnig i dalu taliad gwneud iawn o £50 a chyflwyno ymateb Cam 2 i’r gŵyn sy’n mynd i’r afael â phryderon Mr E nad oeddent wedi’u datrys, erbyn 12 Mehefin 2023.