Dyddiad yr Adroddiad

12/08/2025

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Yr Amgylchedd ac Iechyd yr Amgylchedd

Cyfeirnod Achos

202503885

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs B fod Cyngor Sir y Flint wedi methu ag ymateb i’r gŵyn a wnaeth i’r Cyngor ym mis Mawrth 2025.

Canfu’r Ombwdsmon y cafwyd oedi yn y Cyngor wrth ymateb i gŵyn Mrs B, a methiant i’w diweddaru yn ystod yr oedi. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs B a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad ffurfiol.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro ac egluro’r rhesymau am yr oedi a’r diffyg diweddariadau, i gynnig taliad gwneud iawn o £50, ac i gyhoeddi ymateb Cam 2 i’r gŵyn o fewn 6 wythnos.